Today was our official big birdwatch day. Class 2 and class 3 took part and spent a very enjoyable hour watching the birds eating the seeds and peanuts which had been put out for them. We filled the feeders in the morning and by 'going home time' there wasn't a lot left.
The Sparrows didn't eat the seeds in the feeder, they just flicked them out onto the floor and ate them at their leisure. The Starlings monopolised the peanuts and the Robins and Blue Tits came along when no one else was looking.
In previous years the Jackdaws were rather a nuisance but this year their behaviour was impeckable. The children thoroughly enjoyed the hour and were the quietest they've been for a very long time!
Heddiw oedd diwrnod swyddogol Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB. Bu Dosbarthiadau 2 a 3 yn cymryd rhan yn yr arolwg a threuliodd y plant awr ddifyr yn gwylio'r adar yn bwyta'r cnau a'r hadau a adawyd iddynt. Roeddem wedi llenwi'r teclyn bwydo yn y bore ac erbyn amser mynd adref nid oedd llawer ar ol! Roedd yn well gan Adar y To daflu'r hadau ar y llawr ac yna eu bwyta yn eu hamser eu hunain. Roedd y Drudwy yn tueddu i feddiannu'r cnau mwnci ond deuai'r Robin a'r Titw Tomos Las yno i'w dwyn pan nad oedd neb yn gwylio.
Yn y blynyddoedd a fu, fe fu'r Jacdos yn dipyn o niwsans, ond y flwyddyn hon roedd pob un yn ymddwyn yn arbennig o dda. Mwynhaodd pawb yr awr ac yn wir ni fu'r dosbarth erioed mor dawel!