Showing posts with label Dosbarth 1 /Class 1. Show all posts
Showing posts with label Dosbarth 1 /Class 1. Show all posts

5 Dec 2017

Pili Palas

Heddiw ymwelodd plant y Feithrin  a Pili Palas. Roedd yn fore llawn hwyl. Cafodd bob plentyn anrheg gan Sion Corn yn ogystal a diod a bisgedi yn y caffi. Cyn dychwelyd i'r ysgol cafodd pawb gyfle i weld y nadroedd a'r madfall, yr adar a'r pryfetach, y meerkats a'r mulod yn ogystal a chael llawer o hwyl yn yr ardal chwarae meddal.  Diolch yn fawr iawn i staff Pili Palas am fore difyr iawn.

Today the Nursery children visited Santa at Pili Palas. It was a very exciting morning.  They all received a gift as well as a drink and biscuits in the cafe. Before leaving they saw snakes and lizards, birds and creepy-crawlies, meerkats and donkeys as well as having lots of fun in the soft play area. A big thank you to Pili Palas staff for a lovely morning.










1 Dec 2017

Du a Gwyn / Black and White

Thema plant Dosbarth 1 yr wythnos hon oedd ‘Du a Gwyn’. Dyma ni yn edrych ar brint papur newydd drwy chwyddwydr, ysgrifennu gyda sialc ar fyrddau du, defnyddio dominos i ymarfer ein sgiliau mathemategol ac adrych ar hen luniau du a gwyn.

Class 1’s theme this week was ‘Black and White’. Here we are looking at newspaper print through a magnifying glass, writing with chalks on blackboards, using dominoes to practice our numeracy skills and looking at old black and white photographs.





17 Nov 2017

Plant Mewn Angen / Children in Need

A hithau'n ddiwrnod Plant Mewn Angen, bu'n fore llawn hwyl yn Nosbarth 1. Daeth pawb i'r ysgol mewn gwisgoedd amrywiol a chawsom gyfle i baentio llun o Pudsey a Blush. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

This morning Class 1 children had lots of fun raising money for 'Children in Need'. We came to school wearing our own clothes and we all painted a picture of Pudsey and Blush. Thank you all very much for your generosity.






Tal a Byr/Tall and Short

Yr wythnos hon, yn ogystal a gwrando ar stori Brân a Branwen, rydym wedi bod yn ymchwilio i'r cysyniad o dal a byr. Dyma ni yn darganfod pwy yw’r talaf yn y Dosbarth Derbyn a’r Feithrin, adeiladu cychod i wŷr Brân, chwarae yng nghastell Bran, adeiladu tyrrau tal a byr a datblygu ein sgiliau cyfrifiadurol.

This week as well as hearing about Brân the giant king and his sister Branwen, we have also explored the concept of tall and short. Here we are finding out who’s the tallest in Reception and Nursery, building boats for Brân’s men, playing in Bran’s castle, building tall and short towers for his castle and developing computer skills.







28 Oct 2017

Winnie's Amazing Pumpkin

Yr wythnos hon mae plant Dosbarth 1 wedi bod yn dysgu am bwmpen anhygoel Winnie’r Wrach. Dyma nhw yn gosod pwmpenni yn eu trefn yn ôl maint, yn morthwylio pegiau golff i mewn i bwmpenni ac yn creu ychydig o hud a lledrith – yn union fel Winnie!

This week Class 1 children have had lots of fun learning all about Winnie’s Amazing Pumpkin! Here we are ordering pumpkins according to size, hammering golf tees into pumpkins and creating a little bit of magic – just like Winnie!






19 Oct 2017

Pwyso ffrwythau / Weighing fruit

Yr wythnos hon mae Dosbarth 1 wedi bod yn cael hwyl yn pwyso. Dyma nhw yn darganfod pa ffrwyth yw'r trymaf a pha un yw'r ysgafnaf.

This week Class 1 have been having fun weighing fruit. Here they are finding out which fruit is the heaviest and which is the lightest.




11 Oct 2017

Gwasanaeth Diolchgarwch / Thanksgiving Celebration

Coch a melyn, pinc a gwyrdd, oren a phorffor a glas! Roedd neuadd yr ysgol yn llawn lliw a phlant bach Y Derbyn a'r Feithrin  ar eu gorau yn canu am y byd a'i liwiau


Red and yellow, pink and green, orange and purple and blue! The school hall was very colourful and the Reception and Nursery children in fine voice giving thanks for the world and its wonderful colours.





9 Oct 2017

Blue Tortoise

Stori'r wythnos hon oedd y 'Blue Tortoise' gan Alan Rogers. Mae'r stori yn seiliedig ar chwedl Aesop - Y Crwban a'r Gwningen. Mae Blue Tortoise yn araf ac yn bwyllog yn cyrraedd yr ynys o flaen ei ffrindiau.  Dyma ni yn adeiladu pontydd, yn chwythu'r cychod dros y dwr, yn paentio ac yn darganfod sawl pom pom oedden ni'n medru ei godi gyda tweezers cyn i'r amserydd orffen! 

This week's story was the Blue Tortoise by Alan Rogers. The story is based on Aesop's fable - The Tortoise and the Hare. Blue tortoise sails to a little off-shore island for a picnic and gets there before his friends. Here we are building bridges, blowing boats across the water, painting and finding out how many pom poms we could pick up with tweezers before time ran out!





28 Sept 2017

Bore Coffi Mwya'r Byd / World's Biggest Coffee Morning

Fore Gwener bydd plant Dosbarth 1 yn cymryd rhan ym 'More Coffi Mwya'r Byd'! Dyma nhw yn gwneud cacennau. Rydym yn gobeithio codi llawer o arian. Bydd yr elw yn mynd tuag at Apel Cancr McMillan.

On Friday Class 1 children will be taking part in the 'World's Biggest Coffee Morning'! Here they are making cakes. They are hoping to raise lots of money. All proceeds will go towards the McMillan Cancer Appeal.








22 Sept 2017

Oliver

Yr wythnos hon cafodd plant Dosbarth 1 stori am Oliver, yr arth fach a gollodd ei ffordd wrth redeg ar ol deilen felen. Cafodd plant y Feithrin hwyl yn chwilio am ddail gyda'r lythyren 'O' am Oliver arnynt a chawsant gyfle hefyd i  ffurfio'r lythyren gyda paent, dwr a playdoh. Bu plant y Dosbarth Derbyn yn brysur yn gwneud map i Oliver i'w helpu i ddarganfod ei ffordd adref.

This week Class 1 children enjoyed a story about Oliver, the little bear who got lost while running after a yellow leaf.The Nursery children had fun looking for leaves with the letter 'O' for Oliver on them, and they also enjoyed forming the letter with paint, water and playdoh. The Reception Class children made a map for Oliver to help him find his way home