16 Dec 2017

'The Magical Christmas Jigsaw'

Brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher  a neuadd yr ysgol yn llawn,  cafwyd ein cyngerdd blynyddol. Enw'r cyngerdd eleni oedd 'The Magical Christmas Jigsaw. Roedd yn gyngerdd arbennig a phawb wedi mwynhau. Dyma blant Dosbarth 1 yn eu gwisgoedd lliwgar.

On Tuesday and Wednesday afternoon our annual Christmas concert took place. This year's production was called 'The Magical Christmas Jigsaw'. It was a wonderful performance and thoroughly enjoyed by all. Here are Class 1 children in their colourful costumes.













Parti Nadolig y Feithrin / Nursery Christmas Party

Heddiw roedd hi'n ddiwrnod parti yn y Feithrin. Buom yn dawnsio, chwarae gemau ac yng nghanol ei brysurdeb daeth Sion Corn i edrych amdanom a'i sach yn llawn anrhegion. Diolch yn fawr Sion Corn.

Today was party day in the Nursery. We danced, played games and there was great excitement when Santa arrived with a sackful of presents. Thank you very much Santa.










12 Dec 2017

Gwasanaeth Carolau'r Awyrlu / RAF Carol Service

Heddiw bu côr yr ysgol yn canu yng Ngwasanaeth Carolau’r Awyrlu a gynhaliwyd yn y Sergeants’ Mess. Yn cymryd rhan hefyd yr oedd Côr y Gwragedd Milwrol.  Cafwyd darlleniadau gan bump o ddisgyblion yr ysgol a bu’n wasanaeth graenus a hyfryd tros ben. Diolch i Padre Jesse am y trefniadau
.
This afternoon the school choir took part in the RAF Carol Service held in the Sergeants’ Mess. Also taking part were the Military Wives Choir. There were readings by five of the school’s pupils. It was thoroughly enjoyed by all. A big thank you to Padre Jesse for making sure everything ran smoothly.





5 Dec 2017

Pili Palas

Heddiw ymwelodd plant y Feithrin  a Pili Palas. Roedd yn fore llawn hwyl. Cafodd bob plentyn anrheg gan Sion Corn yn ogystal a diod a bisgedi yn y caffi. Cyn dychwelyd i'r ysgol cafodd pawb gyfle i weld y nadroedd a'r madfall, yr adar a'r pryfetach, y meerkats a'r mulod yn ogystal a chael llawer o hwyl yn yr ardal chwarae meddal.  Diolch yn fawr iawn i staff Pili Palas am fore difyr iawn.

Today the Nursery children visited Santa at Pili Palas. It was a very exciting morning.  They all received a gift as well as a drink and biscuits in the cafe. Before leaving they saw snakes and lizards, birds and creepy-crawlies, meerkats and donkeys as well as having lots of fun in the soft play area. A big thank you to Pili Palas staff for a lovely morning.










1 Dec 2017

Du a Gwyn / Black and White

Thema plant Dosbarth 1 yr wythnos hon oedd ‘Du a Gwyn’. Dyma ni yn edrych ar brint papur newydd drwy chwyddwydr, ysgrifennu gyda sialc ar fyrddau du, defnyddio dominos i ymarfer ein sgiliau mathemategol ac adrych ar hen luniau du a gwyn.

Class 1’s theme this week was ‘Black and White’. Here we are looking at newspaper print through a magnifying glass, writing with chalks on blackboards, using dominoes to practice our numeracy skills and looking at old black and white photographs.





22 Nov 2017

Greenscreen IMovie

Some of Class 5 recently visited Ysgol Fali to work with their pupils to create an IMovie using greenscreen. They had lots offun and created excellent IMovies based on World War 2. 

Aeth rhai o blant Dosbarth 5 i Ysgol Fali i weithio gyda'u disgyblion i greu IMovie gan ddefnyddio sgrin wyrdd. Cawsant lawer o hwyl ac roedd yr IMovies yn ardderchog.








17 Nov 2017

Plant Mewn Angen / Children in Need

Heddiw casglwyd £240 tuag at yr elusen drwy wisgo dillad gwahanol i'r arfer! Da iawn blantos! Roedd yna iar ddigri iawn yn crwydro o gwmpas yr ysgol yn y bore - ond ble oedd Mr Williams?! 

Today we raised £240 for the charity by wearing clothes that were different to what we usually wear! Well done everyone! There was a strange looking chicken wandering around the school in the morning - but where was Mr Williams?!