13 Jan 2017
Y Gwynt / The Wind
Yr wythnos hon rydym wedi bod yn sgwrsio am y gwynt. Dyma ni yn chwifio sgarffiau, yn ceisio chwythu cychod ar y dwr, yn actio stori'r gwynt a'r haul ac yn rhoddi dillad ar y lein - yn y drefn gywir wrth gwrs! Rydym hefyd wedi defnyddio hen fwrdd golchi i olchi dillad cyn eu rhoddi allan i sychu!
This week we have been talking about the wind. Here we are waving scarves, blowing boats across the water, acting out the story about the north wind and the sun and hanging clothes on a clothesline - in the right order of course! We also used an old washboard to wash some of the dolls clothes before hanging them out to dry!