12 Jul 2013

Ffair Haf/Summer Fair

Neithiwr cynhaliwyd y Ffair Haf flynyddol a hynny allan ar yr iard mewn haul bendigedig. Roedd yr ymateb yn wych a phawb mewn hwyliau da. Roedd y burgers a'r cwn poeth wedi eu bwyta i gyd erbyn 6.30 pm ond roedd digon o bethau eraill i ddenu darpar brynwyr. Roedd y castell neidio yn hynod boblogaidd gyda phawb a'r gystadleuaeth bachu hwyaid yn ffefryn gan y plant ieuengaf. Ar ddiwedd y noson roeddem wedi gwneud elw o bron i £800 tuag at gronfa'r ysgol.

Our Summer Fair was held outside in glorious sunshine yesterday. Why is everyone so much more cheerful when the sun shines? We were delighted to see such a wonderful turnout with lots of pennies to spend. The burgers and hot dogs had all gone by 6.30 pm but there were lots of other things to tempt prospective purchasers. The bouncy castle proved very popular with all comers and the duck catching a top attraction for the under 7s. At the end of the evening we had raised almost £800 for our school funds.



Trip Ysgol/School Trip

Aeth Dosbarthiadau 1 a 2 i Theatr Bypedau Harlequin yn Rhos on Sea ddiwedd Mehefin i wylio sioe bypedau. Theatr fychan ydyw o ran maint ac oherwydd hynny roedd y plant yn teimlo'n rhan o'r cyflwyniad. Yn ogystal a hyn, roedd y pypedau yn ddigon o ryfeddod. Gwelsom Elvis, derfis chwyrliol, sgerbwd, a chlown i enwi ond ychydig! Roedd rhai o'r pypedau oddeutu can mlwydd oed ac mewn cyflwr arbennig o dda. Yn dilyn y sioe aethom yn ein blaenau i draeth Penmaenmawr ac yno cawsom ginio cyn mynd ati i wneud ychydig o gyfrifiannu. Er gwaethaf y gwynt a'r glaw cawsom ddiwrnod bendigedig.

Classes 1 and 2 attended the Harlequin Puppet Theatre at Rhos on Sea for a delightful morning of magic and puppetry. The theatre is small enough for youngsters to feel part of the action and the puppets themselves are just wonderful. We saw Elvis, a whirling dervish, a skeleton, a clown to name but a few! Some of the puppets are over a hundred years old and quite remarkable to be in such excellent condition. Once the show was over we progressed to Penmaenmawr beach where we had lunch and did a little orienteering.
Despite the wind and rain, we had a wonderful time and would thoroughly recommend the puppets to anyone in search of entertainment of a different kind.


3 Jul 2013

Canu Noddedig/Sponsored Sing

Bore heddiw cymrodd plant y Feithrin ran yn y canu noddedig blynyddol. Cafwyd cefnogaeth dda a phawb wedi mwynhau. Rydym yn gobeithio casglu digon o arian i brynu adnoddau chwarae ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth.

Today, the Nursery children took part in the annual sponsored sing. It was well attended and everyone thoroughly enjoyed the performance. We are hoping to raise enough money to buy play equipment for the Foundation Phase. Thank you for your support.


. Thank you very much for your support.

1 Jul 2013

Diwrnod Mabolgampau/Sports day

Roedd heddiw yn ddiwrnod Mabolgampau. Roedd yn brynhawn bendigedig a chafodd y plant lawer o hwyl. Da iawn bawb!

Today was Sports Day. It was a great afternoon with all the children taking part and having fun. Well done everyone.




25 Jun 2013

Marc Griffiths

Heddiw ymwelodd Marc Griffiths  y tafleisiwr a’r ysgol gyda’i bedwar ffrind Gorilla, Oreo, Lee a Doggy. Roedd ganddo neges bwysig i ni sef – 'Mae AUR ym mhob un ohonom ac yn eraill hefyd.' Cawsom brynhawn difyr dros ben ac rydym yn gobeithio eu gweld eto yn fuan iawn.


Today Marc Griffiths the ventriloquist visited the school with his four friends Gorilla, Oreo, Lee and Doggy. They all had a very important message – 'There’s GOLD in all of us and in others too.' We all had a very enjoyable afternoon and we hope to see them again very soon. 


The Green Ambassador's Award

Llongyfarchiadau i ddisgybl o Flwyddyn 2 ar ennill y 'Green Ambassador's Award' fel cydnabyddiaeth gan y 'World Wildlife Fund' am ei ymdrech i godi arian drwy gerdded y 10.5 milltir o'i gartref i'r ysgol

Many congratulations to a pupil from Year 2 for winning a Green Ambassador's Award from the World Wildlife Fund. This was in recognition of his fundraising efforts and recent 10.5 mile walk to school.

19 Jun 2013

Trionglau/Triangles

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am drionglau. Fel y gwelwch cawsom hwyl fawr ar yr helfa drionglau, yn ffurfio trionglau, yn creu cerddoriaeth gyda thrionglau ac yn chwarae gyda cychod gyda hwyliau ar ffurf triongl.

This week we have been learning about triangles. As you can see we had lots of fun on our triangle hunt, forming triangles, making music with triangles and playing with boats with triangular shaped sails!