30 Mar 2010

Llyn Penrhyn/Lake





Years 1 and 2 recently visited the RSPB reserve at Llyn Penrhyn as part of their project work on birds. The weather was beautiful and all were impressed by the number and variety of water fowl to be seen.

Ymwelodd plant blwyddyn 1 a 2 a Gwarchodfa Natur Llyn Penrhyn yn ddiweddar fel rhan o'u gwaith ymchwil ar adar. Roedd y tywydd yn fendigedig ac roedd pawb wedi rhyfeddu at yr amrywiaeth o adar dwr a oedd i'w weld.

28 Mar 2010

Techniquest

Thank you to Techniquest for allowing Ysgol y Tywyn to borrow their Maths' resources.
Years 3-6 were given the chance to develop their understanding of problem solving through playing / taking part in a number of different activities.
Here are some children working hard.








Diolch i Techniquest am roddi benthyg eu hadnoddau Mathemategol i blant Ysgol yn Tywyn. Cafodd plant Blynyddoedd 3 - 6 gyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddatrys problemau drwy chwarae a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Dyma rai plant yn gweithio'n galed.

Recycling with Tyddyn Môn / Ailgylchu gydag Tyddyn Môn

Galwodd gweithwyr o Dyddyn Môn i ofyn i'r ysgol gychwyn ailgylchu dillad. Mae'r ysgol wedi derbyn bin i gasglu'r holl ddillad nad yw disgyblion eu hangen. Pob tunnell o ddillad sydd yn cael ei gasglu mae'r ysgol yn cael £150. Felly edrychwch trwy eich wardrob am ddillad nad ydych eu hangen, ac anfonwch hwy i'r ysgol.

Am fwy o wybodaeth am Tyddyn Môn clicliwch yma.




Workers from Tyddyn Môn visited to ask the school to start recycling textiles. The school has received a bin to collect all textiles that are no longer needed. For every tonne of textiles collected the school will receive £150. So scrummage through your wardrobes and have a look for any clothes that you no longer require and drop them off at school.

For more information about Tyddyn Môn click here.

26 Mar 2010

Pel droed / Football

On Friday, Ysgol y Tywyn played their first match of the year against Ysgol Beaumaris in the 'Albert Owen' Cup. After a fantastic 1st half battle, Tywyn were up 2-1. The second half started well, but Beaumaris drew level and then grew in confidence and were soon 5-3 up.

Tywyn fought back and scored a 4th goal in the last minute of the game, but unfortunately time was against us and Beaumaris won 5-4.

Well done boys you played well. Congratulations to Beaumaris and best of luck in the next round.


Dydd Gwener chwaraeodd Ysgol y Tywyn eu gem gyntaf o'r flwyddyn yn erbyn Ysgol Biwmares yng Nghwpan 'Albert Owen'. Roedd yr hanner cyntaf yn frwydr wych, gyda Thywyn yn ennill 2-1 hanner amser.
Dechreuodd yr ail hanner yn dda, ond roedd Biwmares wedi gwneud y gêm yn gyfartal ac yn tyfu mewn hyder, ac yn fuan iawn roeddent 5-3 i fyny.

Cwffiodd Tywyn yn galed i sgorio eu 4ydd gol yn ystod y funud olaf o'r gêm, ond yn anffodus roedd amser yn ein herbyn enillodd Biwmares 5-4.
Da iawn hogia.
Llongyfarchiadau i Fiwmares a pob lwc yn y rownd nesaf.

15 Mar 2010

Engineering Day / Diwrnod Peirianneg

Years 5 & 6 visited the High school today to take part in an Engineering day. The brief was to create a paper aeroplane.
The aeroplane to fly the furthest across the school hall would win a prize. Congratulations to two pupils from Ysgol y Tywyn for coming 1st and 2nd.

Cafodd Bl 5 & 6 ymweld â'r Ysgol Uwchradd heddiw i gymryd rhan mewn diwrnod Peirianneg. Y dasg oedd creu awyren wedi ei wneud o bapur.
Bydd yr awyren sydd yn hedfan bellaf ar draws y neuadd yn ennill gwobr. Llongyfarchiadau i ddau o ddisgyblion Ysgol y Tywyn am ddod yn 1af ac 2il..


Gwyl Athletau / Athletics Festival

Dydd Iau cafodd rhai disgyblion y cyfle i gymryd rhan mewn wyl athletau yn y ganolfan hamdden yn Nhaergybi. Roedd hyn yn gyfle i ddisgyblion wneud ffrindiau newydd a cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog.

On Thursday some children had the opportunity to visit Holyhead leisure centre to take part in an Athletics festival. This gave children the chance to make new friends and take part in a variety of fun activities.

Y Feithrin / Nursery

Y Ty Bach Twt
Roedd cynnwrf mawr yn y Feithrin fore Mawrth - cyrhaeddodd y ty bach twt! Fel y gwelwch, mae'r plant i gyd wrth eu bodd.

There was great excitement in the Nursery on Tuesday morning - our new playhouse arrived! As you can see the children are thrilled.


Cynllun Gwen
Fore Mercher, fel rhan o'r Cynllun Gwen, bu plant y Feithrin yn glanhau eu dannedd. Mae pawb wrth eu boddau gyda'r bws brwsys a'u brwsys dannedd newydd!

On Wednesday morning as part of the Designed to Smile programme the Nursery children all brushed their teeth. They all love the brush bus and their new toothbrushes!

5 Mar 2010

Growing / Tyfu

Y Dosbarth Meithrin
Fel rhan o'n thema ar 'Tyfu' rydym wedi bod yn gwrando ar stori Jac a'r Goeden Ffa'. 'Rwan rydym am fynd ati i dyfu ein coeden ffa ein hunain, yn union fel Jac!


The Nursery Class
As part of our theme on 'Growing' we have been listening to the story of 'Jack and the Beanstalk'.Now we are going to grow our own beanstalk, just like Jack!

4 Mar 2010

Diwrnod y Llyfr / World Book Day

Y Dosbarth Meithrin
Dydd Iau, Mawrth 4ydd roedd hi'n Ddiwrnod y Llyfr a daeth genethod o ddosbarth Mr Williams atom gyda llyfrau o'u dewis. Cawsom fore pleserus yn eu cwmni a phawb wedi mwynhau gwrando arnynt yn darllen storiau hynod ddifyr.

The Nursery Class
Thursday, March 4th was World Book Day and girls from Mr Williams' class came to the Nursery with books of their choice.We had a very enjoyable morning listening to the girls reading their stories.

Capten Jack / Captain Jack



Dydd Mercher daeth Capten Jack a Debs i'r dosbarth i ddangos i ni sut i 'arwyddo' hwiangerddi bach cyfarwydd. Roedd y plant yn ymateb yn arbennig o dda a Jack wedi dotio! Diolch yn fawr Jack a Mrs Pollard am ddod atom a gobeithiwn eich gweld eto'n fuan iawn!

On Wednesday Captain Jack and Debs came to see us and taught us how to 'sign' familiar nursery rhymes. The children responded well and Jack was amazed! Thank you Jack and Mrs Pollard for coming to see us and we hope to see you again soon!

3 Mar 2010

Carrilion

Yesterday Year 5 & 6 were invited by Carillion to see the new Sgt Mess' building. Children were given the opportunity to build walls, mix concrete and witness how a building comes together and relies on team work. Like all building sites the key message was SAFETY.

Thank you once again to Carillion for their invite and kindness in giving some goodies to the children.

Ddoe cafodd Blwyddyn 5 a 6 wahoddiad i weld adeilad newydd y 'Sgt Mess'. Cafodd y plant y cyfle i adeiladu waliau, cymysgu concrit, a gwylio'r modd y mae codi adeilad yn dibynnu'n llwyr ar gydweithio gofalus. Fel ym mhob safle adeiladu, rhoddwyd pwyslais ar DDIOGELWCH.

Diolch yn fawr Carillion am y gwahoddiad ac am y rhoddion caredig.



Dewi Sant / St David's Day



On March 1st, during the morning, the children from the reception class celebrated St. David's Day by dressing up in traditional Welsh national costume. In the afternoon we made some Welsh cakes together and the general consensus was that they were 'Yummy!!!'.


Yn ystod bore Mawrth 1af, dathlodd disgyblion y dosbarth Derbyn ddiwrnod Dewi Sant. Roedd pawb wedi gwisgo dillad traddodiadol Cymreig, ac yn y prynhawn cafodd pawb wneud Teisennau Cri. Barn pawb oedd eu bod yn flasus iawn.

1 Mar 2010

Violin

Dyma rai o'r disgyblion yn chwarae un o ganeuon traddodiadol Cymreig yn ystod diwrnod Dewi Sant.

Here are some children playing a traditional Welsh song during St. Davids Day.