29 Dec 2012

DVD

If you would like to purchase a DVD of the Christmas show at a cost of £3.00, please inform a member of staff early in the new year. Thank you

Os ydych yn dymuno prynu DVD o'r Sioe Nadolig am £3.00, rhoddwch wybod i aelod o staff mor fuan a phosibl yn y flwyddyn newydd. Diolch.

Christmas Show / Sioe Nadolig


Last week we witnessed the greatest show in North Wales. Ysgol y Tywyn told the story of Worldwide Santa. After weeks of preparation the children performed brilliantly to a packed hall. Thank you to everyone who helped to prepare the children for their big performance.

Yr wythnos ddiwethaf cawsom y sioe Nadolig orau yng Ngogledd Cymru. Ar ol wythnosau o baratoi, perfformiodd y disgyblion  'Santa'n Teithio'r Byd' yn wych i neuadd orlawn. Diolch yn fawr iawn i bawb am helpu i baratoi'r disgyblion ar gyfer y perfformiad.

22 Dec 2012

Nadolig Llawen / Merry Christmas




We would like to take this opportunity to thank you all for your support during 2012 and we would also like to wish you all a very Merry Christmas and a healthy and prosperous New Year!

The new term begins on the 7th of January.

Hoffem ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch!
Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar Ionawr 7fed..

19 Dec 2012

Last week we held our annual Christmas Fair. It was a very successful evening and we're hoping that the proceeds will be well over a £800. Thank you all very much for your support.

 Neithiwr cynhaliwyd ein Ffair Nadolig flynyddol. Bu'n noson lwyddiannus ac rydym yn gobeithio y bydd yr elw oddeutu £800. Llawer o ddiolch i chi am eich cefnogaeth

 


.

 Today we had our annual Christmas lunch (which was lovely). Following our lunch we were visited by Santa with his sack full of presents. Every child in Ysgol Y Tywyn were lucky to receive a gift from Santa. Thank you Santa! In the afternoon we had a few fun games and a disco. Everyone thoroughly enjoyed the day!

Heddiw cawsom ein cinio Nadolig blynyddol ac fel arfer, roedd yn fendigedig! Ar ol cael llond bol o fwyd daeth Sion Corn i edrych amdanom, gyda'i sach yn llawn anrhegion. Roedd pob plentyn yn ddigon ffodus i gael anrheg ganddo. Yn y prynhawn cawsom ddisgo a chyfle i chwarae gemau. Mwynhaodd pawb y diwrnod yn fawr iawn!

Diogelwch Dwr / Water Safety

Thank you to Meic Griffith for coming to class 4 to give a lesson on the dangers of water.  This was an invaluable lesson. 

Diolch i Meic Griffith am ddod i Dosbarth 4 i godi ymwybyddiaeth o beryglon dwr. Roedd yn wers
bwysig  a gwerthfawr iawn.

 

18 Dec 2012

INSPECTION / AROLWG

Estyn have now published our school inspection report which is available to read and download from the link on the right.

Yn dilyn ein arolwg diweddar, mae Estyn wedi cyhoeddi'r adroddiad terfynnol ac mae ar gael i'w lawrlwytho drwy glicio'r  linc ar y dde.

16 Dec 2012

Santa yn yr Wylfa / Santa at Wylfa


Today the Nursery children visited Santa at Wylfa. They all received a gift followed by a drink and biscuits in the cafe. A big thank you to the Visitor Centre staff for a lovely morning.




Heddiw ymwelodd plant y Feithrin  a'r Wylfa. Cafodd bob plentyn anrheg gan Sion Corn ac yna diod a bisgedi yn y caffi. Diolch yn fawr iawn i staff y Ganolfan Ymwelwyr am fore difyr.

13 Dec 2012

Parti Nadolig y Feithrin / Nursery Christmas Party



Ddoe roedd hi'n ddiwrnod parti yn y Feithrin. Buom yn dawnsio, chwarae gemau ac yng nghanol ei brysurdeb daeth Sion Corn i edrych amdanom a'i sach yn llawn anrhegion. Diolch yn fawr Sion Corn

Yesterday it was party day in the Nursery. We danced, played games and there was great excitement when Santa arrived with a sackful of presents. Thank you very much Santa.




9 Dec 2012

Cyngerdd Nadolig y Feithrin / Nursery Christmas Concert

Bore Mercher, a neuadd yr ysgol yn llawn,  cafwyd cyngerdd blynyddol y Feithrin a'r Dragonflies. Enw'r cyngerdd eleni oedd 'Looking for Santa' ac fel y gwelwch o'r lluniau, roedd yn gyngerdd lliwgar a bywiog a phawb wedi mwynhau.

On Wednesday morning the Nursery and Dragonflies held their annual Christmas concert. This year's production was called 'Looking for Santa'. As you can see from the pictures, it was colourful and lively and thoroughly enjoyed by all.







20 Nov 2012

Diwrnod Plant Mewn Angen/Children in Need Day

Heddiw, a hithau'n ddiwrnod Plant mewn Angen, daeth y plant i'r ysgol mewn amrywiaeth o wahanol wisgoedd. Yn ogystal a thalu am gael gwisgo eu dillad eu hunain roedd tocynnau raffl ar werth hefyd. Casglwyd y swm anrhydeddus o £305.70. Bydd y cyfan yn mynd i gronfa'r Plant Mewn Angen. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cyfraniad.

With today being Children in Need Day, the children came to school in a variety of costumes!  As well as paying for the 'privilege' of wearing their own clothes, raffle tickets were also sold. At the end of the day the school managed to raise £305.70 and all money donated will go towards the Children in Need charity. Thank you all very much for your support.

16 Nov 2012

Bws Coginio / Cooking Bus

Last week we were very fortunate to have the 'Cooking Bus' visit our school.  Children were given the opportunity to cook various dishes such as kebabs, Bara Brith, pizza and other lovely dishes, at the same time they were learning important cooking safety skills.


     








Yr wythnos ddiwethaf ymwelodd y Bws Coginio a'r ysgol.  Cafodd y plant gyfle i goginio amrywiaeth  o ddanteithion megis  kebabs, bara brith a phizzas. Yn ogystal a pharatoi prydau blasus, dysgodd y plant hefyd am arferion diogel  wrth goginio.

9 Nov 2012

Noson Tan Gwyllt/Bonfire Night














                      Yr wythnos hon mwynhaodd pawb y stori am Charlie'r Ddraig a gysgodd am flwyddyn gyfan gan ddeffro mewn pryd i gynnau'r goelcerth ar Noson Tan Gwyllt. Bu'r plant yn lliwio lluniau o rocedi, adeiladu rocedi gyda blociau mawr a bach, gwneud setiau o rocedi a gludo siapiau i gyfleu Noson Tan Gwyllt.



This week we all enjoyed the story about Charlie the dragon who had been asleep for ages! He slept through Christmas. He slept through Easter. He even slept through his birthday! On Bonfire Night, his friends have to wake him up to light the bonfire! The children coloured pictures of rockets, built rockets, made sets of rockets and stuck different coloured shapes on black cards to create a fireworks scene.


23 Oct 2012

WW2 Medal / Rationing

Last week children in Mr Williams' class visited Holyhead secondary school.  The theme of this term is WW2.  Years 4 and 5 were given the opportunity to design and make a medal for an evacuee for being brave.  The children were learning how to use a CAD programme and learn how a later printer will cut out their finished product. 
Year 6 were busy cooking.  They were given the recipe to 'Rock cakes'.  The children were busy preparing these cakes only using food that was available during the second world war.  Everyone was surprised to learn you could get more than 12 rock cakes out of a little amount of flour and 1 egg. 


Yr wythnos diwethaf aeth dosbarth Mr Williams i Ysgol Uwchradd Caergybi. Fel rhan o thema'r dosbarth ar Yr Ail Ryfel Byd, cafodd  plant blwyddyn 4 a 5 gyfle i gynllunio a chreu medal i faciwi fel arwydd o ddewrder. Yn ystod y prynhawn, dysgodd y plant sut i ddefnyddio rhaglen CAD ac hefyd darganfod  sut y mae modd i brintar laser dorri allan gwaith gorffenedig.

Cafodd plant blwyddyn 6 gyfle i goginio. Cawsant riset ar sut i wneud 'Rock Cakes' drwy ddefnyddio cynhwysion a oedd ar gael yn ystod y rhyfel. Cafodd pawb syndod o weld fod modd gwneud deuddeg cacen allan o ychydig iawn o flawd ac un wy.




.

18 Oct 2012

Gwasanaeth Diolchgarwch Y Feithrin/Nursery Thanksgiving Service


Fore Mercher yn neuadd yr ysgol cafwyd Gwasanaeth Diolchgarwch y Feithrin a'r Dragonflies.Roedd y plant bach ar eu gorau yn diolch i Dduw ar gan am y pethau sy'n eu gwneud yn hapus!

On Wednesday morning in the school hall the Nursery children and Dragonflies took part in their annual Thanksgiving Service. The children were in fine voice and thanked God for all the things which make them happy.



16 Oct 2012

Padre Stu

This morning we were visited by Padre Stu. With Thanksgiving fast approaching, we were told a story that made us think about just how lucky we are when talking about food.  He made us think of all those miles a pizza has travelled when you break up all those nice toppings and which country they came from.  Thank you for your visit and we hope to see you again soon.

Bore heddiw, a ninnau ar drothwy'r Wyl Ddiolchgarwch, ymwelodd Padre Stu a'r ysgol. Adroddodd stori a wnaeth i ni sylweddoli pa mor ffodus yr ydym fod bwyd yn cyrraedd ein byrddau mor rhwydd. Diolch Padre am alw a gobeithiwn eich gweld eto yn fuan.

14 Oct 2012

Sheila

Dydd Gwener daeth Miss Bethan Jones a Sheila i edrych amdanom. Dydd Llun bydd y ddwy yn cychwyn am Awstralia. Ganol yr wythnos rydym yn gobeithio derbyn neges E bost ganddynt o Sydney yn dweud eu bod wedi cyrraedd yn saff!

Last Friday Miss Bethan Jones and Sheila came to visit. On Monday they will be leaving for Australia. They have promised to send us an E mail from Sydney to say that they have arrived safely!

Beic Smwddi/ Smoothie Bike


Daeth Mr Gwyndaf Pritchard o Eden i'r ysgol ganol yr wythnos gyda'i feic smwddi. Dangosodd i ni sut i wneud smwddi bendigedig a hynny drwy defnyddio pwer y beic. Roedd y beic wedi dod yr holl ffordd o Galifornia ac roedd yn ffordd wych o gadw'n iach ac yn heini.

Mr Gwyndaf Pritchard from Eden brought his smoothie bike to school and showed us how to make man/woman powered smoothies.The bike came all the way from California and was an excellent way to keep fit and healthy. The smoothies were yummy!



Gwneud cawl/Making soup

Cafodd plant Dosbarth 2 hwyl yr wythnos diwethaf yn gwneud cawl llysiau. Cafodd y llysiau eu torri fyny yn fan ac yna eu berwi gyda dwr a stoc cyw iar. Roedd yn flasus dros ben!

We made some delicious vegetable soup in Class 2. We chopped the vegetables and boiled them up with water and chicken stock. It was delicious!

Mr Campell and Dave

Ddiwedd yr wythnos daeth Mr Campbell a Dave i'r dosbarth i egluro i ni sut i gadw'n saff ar y mynyddoedd. Roedd gan Dave dair cot, sannau tew, esgidiau cryf a het gynnes. Roedd y plant wedi gwirioni o glywed fod y ddau yn gweithio gyda'r Tywysog William!

Mr Campell and Dave came to see us to explain about how to keep safe in the mountains. Dave had three coats! He also had thick socks, boots and a warm hat. The children were very excited to learn that Mr Campell and Dave work with Prince William!

Plannu bylbiau/Planting bulbs

 Bu plant dosbarth 2 yn brysur yn plannu bylbiau. Pan ddaw'r Gwanwyn rydym yn gobeithio gweld pentyrau o Gennin Pedr yn harddu'r lle.

Now is the time for bulb planting. We planted loads of daffodil bulbs by the school office and hope for a good display in the Spring.

Plannu bylbiau/planting bulbs




 Bu plant y Dosbarth Meithrin hefyd yn brysur yn plannu bylbiau Cennin Pedr.

The Nursery children have also been busy planting daffodil bulbs.

5 Oct 2012

Cylchoedd/Circles




Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn dysgu am gylchoedd. Cawsom hwyl yn printio, matsio, gwneud cylchoedd drwy ddefnyddio playdoh a mynd ar helfa gylch!

This week we have been learning about circles. We had lots of fun printing, matching, making circles with playdoh and going on a circle hunt!

1 Oct 2012

Help for Heroes


Dydd Gwener daeth ymwelydd arbennig i’r ysgol , sef Hero’r Arth. Daeth i’r ysgol i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith da mae cymdeithas 'Help for Heroes' yn ei wneud yn helpu aelodau'r lluoedd arfog sydd wedi eu hanafu. Ymwelodd â phob dosbarth ac roedd y plant wrth eu bodd yn ysgwyd llaw âg ef!

On Friday a very special visitor came to our school - Hero the Bear, the official mascot of the ‘Help for Heroes' charity.  He came to raise awareness of the marvellous work ‘Help for Heroes’ does to help our current wounded. He visited every class and the children were delighted to meet him. 

Old Trafford


On Wednesday night, 15 children from years 3 to 6 visited Old Trafford in Manchester to watch Manchester United play Newcastle in the Capital One Cup. This was an amazing opportunity for many children to watch their first ever live football match.

The children sat high above the goal in the Stratford End, which meant they could see the whole length of the pitch. The first goal was scored just before half time with two more goals in the second half. The final score was 2-1 with a victory for the home side. Even though it was a late night, the children thoroughly enjoyed themselves. They behaved brilliantly and were a credit to Ysgol Y Tywyn.

Neithiwr cafodd 15 o ddisgyblion y cyfle i fynd i wylio gêm beldroed yn Old Trafford rhwng Manchester United a Newcastle yn y Capital One Cup. Roedd hyn yn gyfle arbennig i rai disgyblion weld gêm fyw am y tro cyntaf.
Roedd ein seddau y tu ol i'r gol. Golygai hyn ein bod yn gallu gweld y cae ar ei hyd. Sgoriwyd y gôl gyntaf i Manchester United ychydig cyn hanner amser gyda dwy gôl arall yn yr ail hanner gan wneud y sgor terfynol yn 2-1 gyda buddugoliaeth i’r tim cartref.
Er ei bod yn noson hwyr, roedd pawb wedi mwynhau yn fawr. Yn ogystal a hyn roedd y plant wedi ymddwyn yn wych, ac yn glod i'r ysgol.