30 Jun 2017

Parc Coed y Sipsi / Gypsy Wood

Heddiw aeth plant y Feithrin ar eu trip blynyddol. Y flwyddyn hon aethom i Barc Coed y Sipsi ger Y Bontnewydd. Er nad oedd y tywydd yn garedig wrthym, cawsom ddiwrnod bendigedig a sawl un yn dweud eu bod yn gobeithio ymweld a'r parc eto'n fuan!

Today the Nursery children went on their annual school trip. This year we went to Gypsy Wood near Y Bontnewydd. The weather was not kind to us but a little rain did not dampen our spirits! We all had a great time and hope to return very soon.















23 Jun 2017

Malwod / Snails

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am falwod. Buom ar helfa falwod a chawsom hyd i ddau ddeg a thri o falwod ac un wlithen. Buom yn eu gwylio yn symud. Roedd pob un yn gadael llwybr arian ar eu hol. Yna fe fuom yn gwneud lluniau lliwgar o falwen fel lluniau Matisse.

This week we have been learning about snails. We went on a snail hunt and found twenty three snails and one slug! We then watched them move. They left a silvery trail on black paper. We made pictures of colourful snails just like Matisse’s snail and we also made Playdoh snails.






20 Jun 2017

Llwyddiant yr Urdd / Urdd success

Congratulations to our pupils on their success in the Urdd Arts and Craft competition.  

Llongyfarchiadau i'r disgyblion isod ar eu llwyddiant yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd.



New Chick / Cyw Bach Newydd

Over the weekend we welcomed a new chick at Ysgol y Tywyn.  One of our hens has been busy sitting on her egg for 3 weeks and the result of her hard work was a cute new chick.

Dros y penwythnos cyrhaeddodd cyw bach newydd i'r ysgol.  Mae un o'n ieir wedi bod yn brysur yn eistedd ar y wy am 3 wythnos, Canlyniad y gwaith caled oedd cyw bach ciwt! 




19 Jun 2017

Mabolgampau'r Feithrin / Nursery Sports Day

Fore heddiw cymrodd plant y Feithrin ran yn eu Mabolgampau blynyddol. Ymunodd y Dragonflies a ni a chawsom hwyl fawr yn rhedeg, neidio trwy gylchoedd a thaflu bagiau ffa i bwcedi glan mor! Cyn mynd adref cafodd pawb lolipop haeddiannol dros ben!

Today the Nursery children took part in their annual Sports Day. Dragonflies joined us and we had great fun running, jumping through hoops and throwing beanbags into buckets! Before going home we all enjoyed a well earned ice lolly!








9 Jun 2017

Rhif 5 / Number 5

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am rif 5. Rydym wedi dysgu sut i ffurfio'r rhif yn gywir ac hefyd adnabod y rhif drwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau.

This week we've been learning about number 5. We have learnt how to correctly form the number and  recognise the number through games and activities.