24 Mar 2013

Dathlu'r Pasg/Celebrating Easter


Yr wythnos hon rydym wedi bod yn brysur yn paratoi at y Pasg drwy wneud cardiau a basgedi. Cawsom lawer o hwyl hefyd yn rholio 'wyau' i lawr landeri plastig a chymryd rhan mewn ras wy ar lwy!

This week we have been preparing for Easter by making cards and baskets. We also had lots of fun rolling 'eggs' down plastic guttering and taking part in an egg and spoon race!





22 Mar 2013

Helfa Wyau/Easter Egg Hunt


Fore Gwener cymrodd y plant ieuengaf ran yn yr Helfa Wyau flynyddol. Bu'n fore llawn hwyl a chafwyd hyd i'r fasged yn storfa'r Dosbarth Meithrin! Mae'n rhaid fod Cwningen y Pasg yn gwningen glyfar iawn - roedd digon o wyau ar gyfer y plant a'r athrawon!

On Friday morning the children took part in the annual Easter Egg Hunt.It was a very enjoyable morning and the basket was found in the Nursery store cupboard! The Easter Bunny must be a very clever rabbit as there were just enough eggs for all the children and one each for the staff!





19 Mar 2013

Ymweld â Tesco - Tesco visit

Aeth plant Dosbarth 1 ar ymweliad â Tesco yng Nghaergybi. Cawsant gyfle i fynd  o amgylch y siop i edrych am wahanol ffrwythau sydd yn dod o Affrica. Tra ar yr ymweliad, cafodd y plant gyfle hefyd i flasu rhai ffrwythau. Mwynhaodd pawb y bore yn fawr iawn., .


The children in Class 1 went on a visit to TESCO in Holyhead for a tour of the store and also to look for different foods that come from Africa. Whilst on the visit, the children were given the opportunity to carry out some fruit tasting, which they thoroughly enjoyed!




Kamili


Mae Hannah ac Ian o elusen Kamili wedi bod yn siarad hefo plant Dosbarth 1 am fywydau plant yn Kihoto Kenya. Mae Ian a Hannah wedi bod yno ddwywaith fel gwirfoloddwyr i gynorthwyo yn yr ysgol. Yr oedd y plant wrth eu bodd yn edrych ar luniau wedi i blant Kihoto eu gwneud. Yr wythnos yma mae’n plant ni wedi bod yn brysur yn ysgrifennu llythyrau i’w hanfon i Kenya er mwyn i’r plant yno cael dysgu ychydig am Gymru. Y bwriad yw adeiladu ar y cyswllt yma gyda’r plant yn Kenya.


Ian and Hannah from the Kamili Charity came to talk to the children in Class 1 about the lives of the children in Kihoto, Kenya. Ian and Hannah have been there twice as volunteers helping in the school. The children thoroughly enjoyed looking at pictures which  the children in Kihoto had drawn . This week Class 1 have been busy writing letters to send to Kihoto to tell the children there about life here in Wales. We hope to build on this link with the children in Kenya.




Teisennau Cri / Welsh Cakes


Mwynhaodd y plant eu hunain yn gwneud teisenni Cri fel rhan o ddathliadau Dydd Gwyl Dewi. Yr oedd rhai o’r plant wedi gwisgo i fyny mewn dillad Cymreig a chafodd pawb lawer o hwyl yn canu, gwneud gwaith celf ond yn bennaf oll ......blasu'r teisennau!

The children really enjoyed making Welsh cakes for the Saint David’s day celebration. They dressed up in their best Welsh outfits and had lots of fun singing, carrying out craft but most of all....tasting their Welsh Cakes.



Comic Relief /Diwrnod Trwynau Coch

This morning all of the children from our school visited Search and Rescue with an enormous red nose created by our children to place on the Sea King helicopter.
Children came to school dressed in bright colours all in aid of Comic Relief.
Thank you all for your kind donations.


Bore heddiw daeth y plant i'r ysgol wedi gwisgo mewn dillad lliwgar a hynny er mwyn codi arian tuag at Comic Relief. Yn ystod y bore aeth pawb i lawr i safle'r awyrlu  i osod trwyn mawr coch ar flaen un o'r hofrennyddion Cafodd y plant hwyl fawr yn creu'r trwyn drwy orchuddio cylch mawr gyda sgwariau coch. Diolch i bawb a gyfrannodd.

16 Mar 2013

Diwrnod y Trwynau Coch/Red Nose Day

Fore Gwener bu'r Dosbarth Meithrin yn dathlu Diwrnod y Trwynau Coch a daeth y plant i'r ysgol  mewn gwisgoedd amrywiol. Cawsant hwyl fawr yn chwarae gemau ac yna cafwyd parti bach i ddathlu'r amgylchiad. Diolch yn fawr i bawb am gyfrannu

Friday morning was Red Nose Day and the Nursery children came to school wearing a variety of costumes. They celebrated the day with party games and lots to eat! Thank you all very much for your kind donations.





15 Mar 2013

Reading Eggs


Hoff raglen cyfrifiadur plant dosbarth 3 yw Reading eggs.

In class 3 our favourite reading programme is Reading eggs.


Rhifau / Numbers


Mae pawb yn brysur yn dysgu am odrifau ac eilrifau.

We are all busy learning all about odd and even numbers.



Dosbarth 3 / Class 3


Y tymor hwn rydym wedi bod yn brysur yn dysgu am solidiau, hylifon a nwyon. Bu’n ddiddorol iawn ceisio gwahanu gwahanol ddeunyddiau a darganfod pa rai oedd yn hydoddi ymewn dwr.


This term we have been busy finding out which materials are soluble and which are insoluble. We discovered different ways of separating materials




13 Mar 2013

Clwb Cybi / Transitional Club Holyhead



Transitional Club Holyhead

Football / Pel Droed


Easter Holiday Activity

11 Mar 2013

Diwrnod y Llyfr/ World Book day


Heddiw bu plant yr ysgol yn dathlu Diwrnod y Llyfr. Bu plant hynaf yr ysgol yn darllen storiau i'r plant ieuengaf ac yn gwrando arnynt yn darllen. Mwynhaodd pawb y weithgaredd yn fawr iawn.

Today, the children celebrated World Book Day. The older children read stories to the younger children, and listened to them read. They thoroughly enjoyed participating in this activity.




7 Mar 2013

Project Bloodhound

Today years 4,5 and 6 were invited to visit the RAF base to listen to Andy Green talk about his attempt to break the world land speed record he currently holds.  He aims to take his car to a speed of 1000 mph!  He is a very brave man.
Heddiw cafodd plant Blynyddoedd 4, 5 a 6 wahoddiad i lawr i safle'r awyrlu i wrando ar Andy Green yn trafod ei ymgais i dorri record cyflymder y byd. Ei uchelgais yw gyrru car ar gyflymder o 1000 mya. Gwr dewr yn wir!




Click on the link below for more information regarding Project Bloodhound.

Techniquest

Class 4 visited Techniquest in Llanberis to take part in a Mathematics and Science roadshow.  One challenge was to design and build something to help land an egg safely on the ground from a height of 3 meters.

Wythnos yn ol ymwelodd Dosbarth 4 a Techniquest yn Llanberis. Bu'r dosbarth yn cymryd rhan mewn sioe deithiol Fathemategol a Gwyddonol. Un o'r sialensau a oedd yn rhaid iddynt ei wynebu oedd cynllunio ac adeiladu rhywbeth a fyddai'n galluogi i wy lanio'n ddiogel o uchder o 3 metr.











Smoke Bugs

Mark Griffiths visited the school to share the dangers involved with smoking.  He and his friend Kevin gave a quick presentation about the importance of looking after your body.

Heddiw ymwelodd Mark Griffiths a'r ysgol i rybuddio'r plant am beryglon ysmygu. Gyda help Kevin, llwyddodd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw'r corff yn iach.



Urdd

Congratulations to our Urdd members on their success at the Arts and craft competition.  Pupils have worked hard on creating various projects.  As a school we managed to collect 42 points, 3 short of the winners of the trophy this year.  Well done everybody your hard work was worth it.

Llongyfarchiadau gwresog i'r plant hynny a fu'n llwyddiannus yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd eleni. Fel ysgol llwyddasom i ennill 42 o bwyntiau, ac roeddem o fewn tri pwynt i ennill y darian!

2 Mar 2013

Dydd Gwyl Dewi Sant/ Saint David's Day

Heddiw bu'r plant yn dathlu Dydd Gwyl Dewi a daeth a sawl un i'r ysgol wedi gwisgo mewn gwisg a oedd yn adlewyrchu diwylliant Cymru.

Today the children celebrated Saint David's Day and many of them came to school in clothing which reflected the culture of Wales.