20 Dec 2010

Nadolig llawen / Merry Christmas



We would like to take this opportunity to thank you all for your support during 2010 and we would also like to wish you all a very Merry Christmas and a healthy and prosperous New Year!

The new term begins on the 4th of January.

Hoffem ddiolch i bawb am eich cefnogaeth yn ystod 2010 ac hefyd gawn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Bydd y tymor newydd yn cychwyn Ionawr y 4ydd.

16 Dec 2010

Panto

Today the whole school visited Venue Cymru in Llandudno to watch the fantastic show Cinderella. Everyone thoroughly enjoyed themselves.

Heddiw cafodd yr ysgol gyfan fynd i Venue Cymru i wylio sioe Cinderella. Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain.

10 Dec 2010

Christmas Concert / Sioe Nadolig

Yesterday we witnessed the greatest show in North Wales. Ysgol y Tywyn re-enacted the traditional Christmas Nativity. After weeks of preparation the children performed brilliantly to a packed hall. Thank you to everyone to helped with preparing the children for their big performance.

Ddoe, gwelsom y sioe Nadolig orau yng Ngogledd Cymru. Ar ol wythnosau o baratoi, perfformiodd y disgyblion yn wych i neuadd orlawn. Diolch yn fawr iawn i bawb am helpu i baratoi y disgyblion ar gyfer y perfformiad mawr.








7 Dec 2010

Cyngerdd y Feithrin / Nursery Concert

Cyngerdd Nadolig y Feithrin/Nursery Christmas Concert

Fore Mawrth cafwyd cyngerdd Nadolig plant y Feithrin a'r Dragonflies. Fel y gwelwch o'r lluniau bu'n gyngerdd lliwgar llawn hwyl a phawb wedi mwynhau!

On Wednesday morning, the Nursery children and Dragonflies held their annual Christmas concert. As you can see from the pictures, it was very colourful, full of fun and thoroughly enjoyed by all!

2 Dec 2010

Ffair Nadolig / Christmas Fair

Last night we held our annual Christmas Fair. We had a large variety of stalls including cakes, pick a card, Santa's Grotto and many many more. We managed to raise a staggering £946 Thank you all very much for your support.

Neithiwr cynhaliwyd ein Ffair Nadolig flynyddol. Roedd amrywiaeth o stondinau, cystadlaethau difyr ac yng nghanol ei brysurdeb, daeth Sion Corn i edrych amdanom! Gwnaed elw anrhydeddus o £946. Llawer o ddiolch i chi am eich cefnogaeth.

FOR SALE / AR WERTH


Calendars are still available to purchase at school.
£ 3.50

Calendr ar gael yn yr ysgol
£3.50

29 Nov 2010

Christmas Fair / Ffair Nadolig


Just a reminder that our Christmas Fair will held this Wednesday December 1st, from 6pm - 8pm.
Please come along to support our yearly event. There will be many different stalls selling a variety of Christmas gifts, cake stalls, we will have plenty of games, 2011 calendars for sale and I've heard that Santa will be visiting.


Nodyn i'ch atgoffa y bydd ein Ffair Nadolig yn cael ei chynnal nos Fercher yma 1af o Ragfyr o 6yp-8yp.
Dewch i gefnogi ein achlysur blynyddol. Bydd llawer o stondinau ar gael yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion Nadoligaidd, bydd llawer o gemau, cacennau, calendr 2011 ar werth, ac rydym wedi clywed sbrydion fod Sion Corn yn dod i ymweld a ni.

25 Nov 2010

Football / Pel droed

Yesterday our football team played against a strong team from Llandegfan. We now know how Gerrard felt during the World Cup, when one of our shots was clearly over the line, but the ref obviously had not seen it. ( I think we should invest in goal line technology)

After fighting hard for the whole match, it ended 1-1 with both teams having played excellently.

Thank you Llandegfan for a great game and we hope to play again after the New Year.

Ddoe bu'r tim peldroed yn chwarae yn erbyn tim cryf o Ysgol Llandegfan. Rydym yn awr yn gwybod yn union sut yr oedd Gerrard yn teimlo yn ystod cystadlaeaeth Cwpan y Byd - y bel yn amlwg dros y llinnell ond y dyfarnwr heb ei gweld! ( Rwy'n credu y dylem fuddsoddi mewn technoleg llinnell gol!)
Wedi brwydr galed, y sgor terfynnol oedd 1 - 1 gyda'r ddau dim yn chwarae yn arbennig o dda.
Diolch yn fawr Llandegfan. Rydym yn gobeithio am gem arall rhywbryd yn y flwyddyn newydd.

20 Nov 2010

Plant Mewn Angen / Children in Need






Yesterday the whole school took part in a non-uniform day to raise money for Children in Need. We had a great variety of outfits, we had Superman, Spiderman, Michael Jackson, a motorcyclist, aliens, a fairy and many more. Up to now the school has managed to collect a total of £263.00. Thank you all for your kind donations.
Ddoe bu'r ysgol gyfan yn brysur yn casglu arian tuag at gronfa y 'Plant Mewn Angen'. Cafwyd amrywiaeth o wisgoedd a hyd yma mae'r cyfanswm yn £263. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniad.

19 Nov 2010

Plant Mewn Angen/Children in Need





A hithau'n ddiwrnod Plant Mewn Angen, bu'n fore llawn hwyl yn y Feithrin. Daeth pawb i'r ysgol mewn gwisgoedd amrywiol, mwynhaodd pawb gan arbennig gan Peter Kay a gafodd ei rhyddhau y llynnedd i gydfynd a'r diwrnod a chawsom gyfle i baentio llun o Pudsey a Blush. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

This morning the Nursery children had lots of fun raising money for 'Children in Need'. We came to school wearing our own clothes, we listened to Peter Kay's Children in Need song and we all painted a picture of Pudsey and Blush. Thank you all very much for your generosity.


Marie Curie

Rydym wedi bod yn plannu bwlbiau Cennin Pedr yr wythnos hon yn y gobaith y cawn eu gwerthu yn y Gwanwyn. Drwy wneud hyn rydym yn bwriadu codi arian tuag at Marie Curie.

This week we have been planting daffodil bulbs. In the Spring we hope to sell them and raise money towards Marie Curie.

18 Nov 2010

Class de Mer

Last week year 6 visited 'Sea Zoo' as part of their Class de Mer. Children were taught many different interesting facts including how the shoreline in shaped and how waves are created. Later in the day they were given opportunities to hold various sea animals including starfish, crabs and lobsters. Everyone had a great day and learned a lot about the importance of looking after our coastline.




Yr wythnos ddiwethaf, fel rhan o'r prosiect y 'Class de Mer' ymwelodd Blwyddyn 6 a 'Sw Mor'. Yn ystod y diwrnod dysgodd y plant lawer o ffeithiau diddorol am y mor yn cynnwys gwybodaeth am sut y ffurfiwyd yr arfordir a sut mae tonnau yn cael eu creu. Cawsant gyfle i afael mewn amrywiaeth o greaduriaid yn cynnwys seren for, cimychiaid a chrancod. Bu'n ddiwrnod arbennig o dda a dysgwyd llawer am bwysigrwydd gwarchod yr arfordir.

5 Nov 2010

Dawns i Bawb/ Dance for All



Yr wythnos hon cafodd plant Blwyddyn 2 y cyfle i gymryd rhan mewn gwers ddawnsio creadigol gyda Colin, dawnsiwr proffesiynnol gyda cwmni dawnsio 'Dawns i Bawb'. Hon oedd y gyntaf o saith gwers.


This week Year 2 children took part in a creative dance lesson with Colin, a professional dancer, from 'Dance for All'. This will be a regular event from now until Christmas.

Noson Tan Gwyllt/ Bonfire Night



Rydym wedi bod yn brysur yn dathlu Noson Tan Gwyllt yn y Feithrin yr wythnos hon. Ydych chi'n hoffi ein lluniau lliwgar?

We have been busy celebrating Bonfire Night in the Nursery this week. Do you like our colourful pictures?

28 Oct 2010

Morrisons

Let's Grow is almost at an end, please keep collecting vouchers at your local Morrisons store. Your support would be greatly appreciated.
For more information click on the here.

Mae talebau 'Let's Grow' Morrisons am y flwyddyn hon bron a dod i ben, buasem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn ystod y tymor.

Am fwy o wybodaeth cliciwch
yma.


Manchester United

Last night 15 children from years 3 to 6 visited Old Trafford in Manchester. This was an amazing opportunity for many children to watch their first ever live football match.

Everyone were sitting behind the goal, which meant we could see the whole length of the pitch. We were lucky, the only goal was scored in the first half, right in front of our eyes.The highlight of the night was having 'Welcome Ysgol Y Tywyn' written on the board at half time. Even though it was a late night, everyone enjoyed themselves and also behaved brilliantly, all the children were a credit to Ysgol Y Tywyn.

Neithiwr cafodd 15 o ddisgyblion y cyfle i fynd i wylio gem beldroed yn Old Trafford. Roedd hyn yn gyfle arbennig i rai disgyblion weld gem fyw am y tro cyntaf.
Roedd ein seddau y tu ol i'r gol, a oedd yn golygu ein bod yn gallu gweld y cae ar ei hyd. Yn ffodus iawn sgoriwyd yr unig gol yn ystod yr hanner cyntaf o flaen lle'r oeddem yn eistedd.Uchafbwynt y noson oedd gweld ' Welcome Ysgol y Tywyn' wedi ei ysgrifennu ar yr hysbysfwrdd yn ystod hanner amser.
Er ei bod yn noson hwyr, roedd pawb wedi mwynhau yn fawr. Yn ogystal a hyn roedd y plant wedi ymddwyn yn wych, ac yn glod i'r ysgol.

19 Oct 2010

Cyfnod Sylfaen. Dosbarth Derbyn /Blwyddyn 1.

Mae’n Ffantastig!! Beth ydych chi’n ei feddwl o ysbyty Dosbarth 1? Ydych chi’n meddwl bod ein meddygon a’n nyrsus yn gwneud gwaith da?

It’s Fantastic!! What do you think of Class 1’s hospital? Do you think our doctors and nurses are doing a good job?

Reception / Year 1 / Foundation Phase

Fel rhan o weithgareddau’r tymor hwn, mae’r plant wedi cael y cyfle i ddysgu am yr Hydref. Rhan o’r gwaith oedd adeiladu lloches addas a chlyd i’r llwynog bach gysgodi ynddo yn ystod y gaeaf. Bu llawer o drafodaeth a dadlau ymysg y plant ynglyn a lleoliad a ffurf addas i’r lloches. Cafwyd llawer o syniadau diddorol.

As part of this term’s work the children have had the opportunity to learn about the Autumn. Part of the work was to construct a suitable and comfortable den for the little fox to shelter in during the winter. There was a lot of discussion and debate about a suitable site and structure of this shelter. The children thought of many interesting ideas.

18 Oct 2010

Class de Mer

Once again Year 6 are taking part in the Class de Mer project. The children set off from Plas Menai in Rib speed boats and headed towards Beaumaris, stopping along the way to learn many different facts about the straits. Later they visited the Castle for lunch and there they enjoyed the afternoon exploring it's fascinating history. Before returning home they explored the wildlife on Puffin Island. Everybody thoroughly enjoyed the day.
Unwaith eto eleni, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn cymryd rhan ym mhrosiect y 'Class de Mer'. Fore Gwener cychwynodd y plant o Blas Menai mewn cwch cyflym gan wneud eu ffordd i gyfeiriad Biwmares. Yn ystod y daith dysgodd y plant lawer o ffeithiau diddorol am y Fenai. Wedi cyrraedd Biwmares, cafodd pawb bicnic yn y castell. Cyn dychwelyd adref cawsant gyfle i fwynhau bywyd gwyllt Ynys Seiriol. Bu'n ddiwrnod hynod ddifyr a diddorol dros ben.