16 Feb 2011

Pel Droed / Football

Today Ysgol Y Tywyn visited Ysgol Y Parc in Holyhead for our second league match. We always knew that Parc had a strong squad and we were expecting a tough match.
The game started well with Tywyn playing well keeping the score close. When the whistle blew for half time we were 3 - o down but were playing brilliantly to keep the score low.
Unfortunately within 5 minutes of the second half starting, Parc scored 3 more.
Once again Tywyn did not give up, they fought hard for the remainder of the game and did well to end the match losing only 6-0. Well done everyone you played excellently. Congratulations Parc.


Heddiw ymwelodd Ysgol y Tywyn a Ysgol y Parc yng Nghaergybi ar gyfer ail gem y tymor. Roeddem yn gwybod o'r cychwyn fod gan y Parc dim cryf ac roeddem yn disgwyl gem galed. Cychwynodd pethau'n dda a llwyddodd Tywyn i gadw'r sgor yn agos. Ond pan ddaeth yn hanner amser, er cystal yr amddiffyn, roedd y Parc dair gol ar y blaen. Yn anffodus, o fewn tri munud wedi cychwyn yr ail hanner roedd Parc wedi sgorio tair gol arall. Ond unwaith eto nid oedd Tywyn am roi'r ffidil yn y to a brwydrodd pawb yn galed hyd at ddiwedd y gem. Y sgor terfynnol oedd 6 - 0. Da iawn bawb am chwarae'n wych a llongyfarchiadau i Ysgol y Parc.

11 Feb 2011

Dewi'r Ddraig/Dewi the Dragon


Ddechrau'r wythnos daeth Dewi'r Ddraig i edrych amdanom. Dysgodd i ni sut i edrych ar ol ein dannedd drwy fwyta'n iach a'u glanhau yn rheolaidd.
At the beginning of the week Dewi the Dragon came to see us! He taught us how to look after our teeth by eating healthily and brushing them regularly.

Diwrnod gwyntog arall /Another windy day


Yr wythnos hon rydym wedi bod yn sgwrsio am y gwynt. Dyma ni yn chwifio rhubannau a fflagiau, yn gwylio'r melinau gwynt yn troi ac yn ceisio chwythu'r cychod ar y dwr!

This week we have been talking about the wind. Here we are waving streamers and flags, watching the windmills spin round and blowing boats across the water!

2 Feb 2011

Bird Watch/Gwylio Adar

Today was our official big birdwatch day. Class 2 and class 3 took part and spent a very enjoyable hour watching the birds eating the seeds and peanuts which had been put out for them. We filled the feeders in the morning and by 'going home time' there wasn't a lot left.
The Sparrows didn't eat the seeds in the feeder, they just flicked them out onto the floor and ate them at their leisure. The Starlings monopolised the peanuts and the Robins and Blue Tits came along when no one else was looking.

In previous years the Jackdaws were rather a nuisance but this year their behaviour was impeckable. The children thoroughly enjoyed the hour and were the quietest they've been for a very long time!

Heddiw oedd diwrnod swyddogol Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB. Bu Dosbarthiadau 2 a 3 yn cymryd rhan yn yr arolwg a threuliodd y plant awr ddifyr yn gwylio'r adar yn bwyta'r cnau a'r hadau a adawyd iddynt. Roeddem wedi llenwi'r teclyn bwydo yn y bore ac erbyn amser mynd adref nid oedd llawer ar ol! Roedd yn well gan Adar y To daflu'r hadau ar y llawr ac yna eu bwyta yn eu hamser eu hunain. Roedd y Drudwy yn tueddu i feddiannu'r cnau mwnci ond deuai'r Robin a'r Titw Tomos Las yno i'w dwyn pan nad oedd neb yn gwylio.

Yn y blynyddoedd a fu, fe fu'r Jacdos yn dipyn o niwsans, ond y flwyddyn hon roedd pob un yn ymddwyn yn arbennig o dda. Mwynhaodd pawb yr awr ac yn wir ni fu'r dosbarth erioed mor dawel!