29 Dec 2012

DVD

If you would like to purchase a DVD of the Christmas show at a cost of £3.00, please inform a member of staff early in the new year. Thank you

Os ydych yn dymuno prynu DVD o'r Sioe Nadolig am £3.00, rhoddwch wybod i aelod o staff mor fuan a phosibl yn y flwyddyn newydd. Diolch.

Christmas Show / Sioe Nadolig


Last week we witnessed the greatest show in North Wales. Ysgol y Tywyn told the story of Worldwide Santa. After weeks of preparation the children performed brilliantly to a packed hall. Thank you to everyone who helped to prepare the children for their big performance.

Yr wythnos ddiwethaf cawsom y sioe Nadolig orau yng Ngogledd Cymru. Ar ol wythnosau o baratoi, perfformiodd y disgyblion  'Santa'n Teithio'r Byd' yn wych i neuadd orlawn. Diolch yn fawr iawn i bawb am helpu i baratoi'r disgyblion ar gyfer y perfformiad.

22 Dec 2012

Nadolig Llawen / Merry Christmas




We would like to take this opportunity to thank you all for your support during 2012 and we would also like to wish you all a very Merry Christmas and a healthy and prosperous New Year!

The new term begins on the 7th of January.

Hoffem ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch!
Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar Ionawr 7fed..

19 Dec 2012

Last week we held our annual Christmas Fair. It was a very successful evening and we're hoping that the proceeds will be well over a £800. Thank you all very much for your support.

 Neithiwr cynhaliwyd ein Ffair Nadolig flynyddol. Bu'n noson lwyddiannus ac rydym yn gobeithio y bydd yr elw oddeutu £800. Llawer o ddiolch i chi am eich cefnogaeth

 


.

 Today we had our annual Christmas lunch (which was lovely). Following our lunch we were visited by Santa with his sack full of presents. Every child in Ysgol Y Tywyn were lucky to receive a gift from Santa. Thank you Santa! In the afternoon we had a few fun games and a disco. Everyone thoroughly enjoyed the day!

Heddiw cawsom ein cinio Nadolig blynyddol ac fel arfer, roedd yn fendigedig! Ar ol cael llond bol o fwyd daeth Sion Corn i edrych amdanom, gyda'i sach yn llawn anrhegion. Roedd pob plentyn yn ddigon ffodus i gael anrheg ganddo. Yn y prynhawn cawsom ddisgo a chyfle i chwarae gemau. Mwynhaodd pawb y diwrnod yn fawr iawn!

Diogelwch Dwr / Water Safety

Thank you to Meic Griffith for coming to class 4 to give a lesson on the dangers of water.  This was an invaluable lesson. 

Diolch i Meic Griffith am ddod i Dosbarth 4 i godi ymwybyddiaeth o beryglon dwr. Roedd yn wers
bwysig  a gwerthfawr iawn.

 

18 Dec 2012

INSPECTION / AROLWG

Estyn have now published our school inspection report which is available to read and download from the link on the right.

Yn dilyn ein arolwg diweddar, mae Estyn wedi cyhoeddi'r adroddiad terfynnol ac mae ar gael i'w lawrlwytho drwy glicio'r  linc ar y dde.

16 Dec 2012

Santa yn yr Wylfa / Santa at Wylfa


Today the Nursery children visited Santa at Wylfa. They all received a gift followed by a drink and biscuits in the cafe. A big thank you to the Visitor Centre staff for a lovely morning.




Heddiw ymwelodd plant y Feithrin  a'r Wylfa. Cafodd bob plentyn anrheg gan Sion Corn ac yna diod a bisgedi yn y caffi. Diolch yn fawr iawn i staff y Ganolfan Ymwelwyr am fore difyr.

13 Dec 2012

Parti Nadolig y Feithrin / Nursery Christmas Party



Ddoe roedd hi'n ddiwrnod parti yn y Feithrin. Buom yn dawnsio, chwarae gemau ac yng nghanol ei brysurdeb daeth Sion Corn i edrych amdanom a'i sach yn llawn anrhegion. Diolch yn fawr Sion Corn

Yesterday it was party day in the Nursery. We danced, played games and there was great excitement when Santa arrived with a sackful of presents. Thank you very much Santa.




9 Dec 2012

Cyngerdd Nadolig y Feithrin / Nursery Christmas Concert

Bore Mercher, a neuadd yr ysgol yn llawn,  cafwyd cyngerdd blynyddol y Feithrin a'r Dragonflies. Enw'r cyngerdd eleni oedd 'Looking for Santa' ac fel y gwelwch o'r lluniau, roedd yn gyngerdd lliwgar a bywiog a phawb wedi mwynhau.

On Wednesday morning the Nursery and Dragonflies held their annual Christmas concert. This year's production was called 'Looking for Santa'. As you can see from the pictures, it was colourful and lively and thoroughly enjoyed by all.