30 Apr 2012

Pel Droed / Football

On Friday our school football team played one of their league football matches against Ysgol Llaingoch.
It was a very exciting game with both teams playing well. Tywyn took the early lead but sadly found themselves 2-1 down at half time. In the second half, Tywyn started strong with shots being fired from all directions. Luckily 2 goals went in and the game ended with Tywyn winning 3-2. Well done!


Brynhawn Gwener ymwelodd ein tim peldroed ag Ysgol Llaingoch. Bu'n gem hynod gyffrous a'r ddau dim ar eu gorau. Aeth Tywyn ar y blaen yn fuan yn yr hanner cyntaf ond erbyn hanner amser roedd Llaingoch wedi llwyddo i sgorio dwy gol. Bu'r ail hanner yn llawn cyffro gyda Tywyn yn sgorio dwy gol cyn y chwiban olaf. Y sgor terfynnol oedd tair gol i ddwy! Llongyfarchiadau Tywyn! Da iawn yn wir!

Fore Iau ymwelodd Mark Winkup a'r ysgol. Ei neges oedd 'Paid cyffwrdd - dwed!' Bu'n sgwrsio gyda'r plant am bwysigrwydd peidio cyffwrdd mewn cyffuriau, meddyginiaethau, hylifau glanhau, nodwyddau ac yn y blaen. Llwyddodd i gyflwyno'r neges mewn modd difyr a hwyliog a mwynhaodd pawb y cyflwyniad yn fawr iawn.






On Thursday morning Mark Winkup visited the school. His message was 'Don't touch - tell!'. He spoke to the children about the importance of not touching drugs, medicines, household substances such as bleach and disinfectants and also needles and syringes. His presentation was lively and full of fun. Thank you Mark, we all enjoyed it very much.


Disco / Disgo

Thank you to everyone that supported us in our Easter Disco. Everyone had fun dancing, having their faces painted and spending money on sweets and hot dogs.
We raised a fantastic £208.94
Thank you all again for your support.

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i gefnogi Disgo'r Pasg. Cafwyd noson ddifyr a mwynhaodd pawb y dawnsio, y paentio wynebau, y cwn poeth a'r melysion! Gwnaed elw o £208.94. Llawer o ddiolch unwaith eto am eich cefnogaeth.



29 Apr 2012

Rosie's Walk

Our new theme is 'Journeys' and this week we have been talking about journeys on foot. One of the stories we enjoyed was 'Rosie's Walk. Here we are making a hen house for Rosie, putting sequence pictures in order, colouring pictures of Rosie and creating an obstacle course in the school hall!


Ein thema'r tymor hwn yw 'Teithio', a'r wythnos hon rydym wedi bod yn sgwrsio am deithio ar droed. Un o'r storiau a gawsom oedd 'Rosie's Walk'. Dyma ni yn gwneud cwt i Rosie, rhoddi lluniau o'r stori yn eu trefn, lliwio lluniau o Rosie a chreu llwybr rhwystrau yn y Neuadd!



1 Apr 2012

Helfa Wyau/Easter Egg Hunt




Fore Gwener cymrodd y plant ieuengaf ran yn yr Helfa Wyau flynyddol. Bu'n fore llawn hwyl a chafwyd hyd i'r fasged yn y tren bach ar iard y Feithrin! Mae'n rhaid fod Cwningen y Pasg yn gwningen glyfar iawn - roedd digon o wyau ar gyfer y plant a'r athrawon!

On Friday morning the children took part in the annual Easter Egg Hunt.It was a very enjoyable morning and the basket was found in the little play train on the Nursery yard! The Easter Bunny must be a very clever rabbit as there were just enough eggs for all the children and one each for the staff!