28 Sept 2015

Plas Newydd

Yesterday Class 5 visited Plas Newydd for the Woodland Festival.
Ddoe cafodd dosbarth 5 ymweld a Phlas Newydd fel rhan o'r Wyl Goedwig.






25 Sept 2015

Apel Cancr McMillan / McMillan Cancer Appeal

Diolch o galon i bawb am eu cyfraniad tuag at gronfa Apel Cancr McMillan. Cawsom fore llwyddiannus. Roedd y Neuadd yn llawn a mwynhaodd pawb ei gacen a'i baned. Gwnaethom elw o £326. Unwaith eto, diolch i chwi gyd.

Thank you all for your generous contribution towards the McMillan Cancer Appeal. We had a very busy and successful morning with everyone thoroughly enjoying their cake and cuppa. We managed to raise £362. Once again, thank you all very much



Llyfr newydd David Walliams's new book 'Grandpa's Great Escape'

Excited children in Class 4 due to the greatly anticipated new book by our favourite author!
Plant yn edrych ymlaen i gael darllen llyfr newydd eu hoff awdur!


24 Sept 2015

Preparing for our McMillan Coffee Morning! Paratoi at ein Bore CoffeeMcMillan!

Class 4 baking and decorating cakes / Dosbarth 4 yn pobi ac addurno teiseni







Apel Cancr McMillan / McMillan Cancer Appeal

Mae plant y Feithrin wedi bod yn  cymryd rhan ym 'More Coffi Mwya'r Byd'! Dyma nhw yn addurno eu cacennau. Rydym yn gobeithio codi llawer o arian. Bydd yr elw yn mynd tuag at Apel Cancr McMillan.

The Nursery children have been taking part in the 'World's Biggest Coffee Morning'! Here they are decorating cakes. We are hoping to raise lots of money. All proceeds will go towards the McMillan Cancer Appeal.





World's Biggest Coffee Morning

Rydym wedi bod yn brysur yn gwneud cacenau ar gyfer elusen Macmillon fel rhan o'r "fore coffi mwya'r byd".

We have been busy baking cakes to raise money as part of Macmillan "World's biggest coffee morning".








23 Sept 2015

Rugby World Cup maths! Mathemateg Cwpan y Byd!

Class 4 are improving their reasoning skills from the Rugby World Cup scores!

Dosbarth 4 yn gwella eu sgiliau rhesymu gyda'r canlyniadau Rygbi!




22 Sept 2015

Pearl

This week in the reception class we had a visit from Pearl the letter fairy. Mrs Barnsley found a glittery letter ‘a’ in the wet area. There was lots of excitement in class that Pearl had left behind fairy dust. We hope she’ll return next week with another letter.

Wythnos yma cawsom ymweliad gan Pearl y dylwythen lythrennau. Daeth Mrs Barnsley o hyd i’r lythyren ‘a’ yn y dosbarth. Roedd y plant wedi cynhyrfu wrth weld y ‘fairy dust’ yr oedd hi wedi ei adael ar ei hol. Rydym yn gobeithio cael llythyren newydd gan Pearl yr wythnos nesaf.





18 Sept 2015

Cylchoedd / Circles

Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn dysgu am gylchoedd. Cawsom hwyl yn tynnu lluniau o gylchoedd, gwneud cylchoedd gyda playdoh, mynd ar helfa gylch, cloddio am gylchoedd ac yn chwarae offerynnau cerdd siap cylch!

This week we have been learning about circles. We had lots of fun drawing circles, making playdoh circles, looking for hidden circles, digging for circles and playing circle shaped musical instruments!








11 Sept 2015

Coch / Red

Thema'r Dosbarth Meithrin y tymor hwn yw 'Lliwiau'. Yr wythnos hon mwynhaodd pawb y stori am 'Yr Hugan Goch Fach', 'Y Llygoden Fach a'r Afal Coch'  a 'Balloon'. Dyma ni yn dangos i'r Hugan Goch Fach y ffordd i dy Nain,  yn rhowlio 'afalau' i lawr landeri plastig ac yn mwynhau'r sypreis ddaeth allan o'r bocs!

The theme for this term is 'Colours'. This week the Nursery children have all enjoyed the story about the Little Red Riding Hood, The Little Mouse and the Big Red Apple and The Red Balloon.  Here we are showing the Little Red Riding Hood the way to Grandmother's house,  rolling 'apples' down plastic guttering and enjoying a very big surprise!





3 Sept 2015

Take Home Ted


Croeso mawr i'r holl blant bach newydd sydd wedi cychwyn yn y Dosbarth Meithrin. Mae pob un wedi ymgartrefu yn arbennig o dda ac wedi mwynhau'r diwrnodau cyntaf.  Dyma nhw yn cyfarfod Take Home Ted am y tro cyntaf!

.A warm welcome to all the new children who started in the Nursery Class this week. They are settling in well and have thoroughly enjoyed their first few days. Here they are meeting Take Home Ted for the very first time!