31 Mar 2011

Bingo

Last night we held our bingo night. Many were hooked on the game. We managed to collect £130. Thank you to all that donated prizes and came to support on the night. Neithiwr cynhaliwyd noson bingo lwyddiannus iawn yn yr ysgol. Roedd llawer un wedi llwyr ymgolli yn y gem. Ar y noson gwnaed elw o £130 . Diolch yn fawr i bawb am eu rhoddion caredig ac am y gefnogaeth ar y noson.

27 Mar 2011

Urdd

Contatulations to all the Urdd members at Ysgol y Tywyn. Having created many diferent art pieces, you managed 20 first prizes and 11 second and 6 third prize. This meant the school was awarded the cup for the most prizes in one comptition this year. Well done everyone. Here are a few examples of the successful art work:

Llongyfarchiadau i'r plant hynny o Ysgol y Tywyn a fu'n cystadlu yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd. Yn dilyn gwaith caled cafwyd 20 gwobr gyntaf, 11 ail ac hefyd 6 trydedd wobr. Yn dilyn y llwyddiant ysgubol hwn, daeth y plant yn ol i'r ysgol o Ganolfan Ucheldre gyda chwpan hardd i'r Adran uchaf ei marciau. Bydd y cynnyrch hynny a ddaeth yn gyntaf yn cael eu hanfon yn awr i'r Genedlaethol yn Abertawe ac yn cael eu beirniadu ddiwedd Mai. Dyma ychydig engreifftiau o'r gweithiau llwyddiannus:

25 Mar 2011

Capten Jack/Captain Jack


Dydd Mercher daeth Capten Jack a Debs i'r dosbarth i ddangos i ni sut i 'arwyddo' caneuon bach syml. Roedd y plant yn ymateb yn arbennig o dda a Jack wedi dotio. Diolch yn fawr iawn Jack a Debs am ddod i edrych amdanom a gobeithiwn eich gweld eto yn fuan.

On Wednesday Captain Jack and Debs came to see us and taught us how to 'sign' familiar songs. The children responded well and Jack was amazed. Thank you Jack and Debs for coming to see us and we hope to see you again very soon.

23 Mar 2011

Gardens for schools / Garddio yn yr Ysgol

Our parents have been busy spending lots of money at Holland Arms Garden Centre. Ysgol y Tywyn has signed up for the 'Gardens for Schools' scheme which means that we get one token for every £10 spent either in the garden Centre or cafe. One of our parents is a particularly ardent supporter and I must thank Julie McArthur for her efforts which are definitely beyond the call of duty. We received £100 worth of gardening vouchers which we have used to brighten up our pots in front of the school.


Mae rhieni'r ysgol wedi bod yn brysur yn gwario eu harian yng Nghanolfan Arddio Holland Arms. Mae'r ysgol yn cymryd rhan yng nghynllun 'Gardens for Schools' sy'n golygu ein bod yn cael un tocyn am bob £10 a geir ei wario yn y Ganolfan neu yn y caffi.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Mrs Julie McArthur am ei hymdrech a'i chefnogaeth. Rydym wedi derbyn oddeutu gwerth £100 o docynau garddio ac wedi eu defnyddio i harddu ein tybiau o flaen yr ysgol.

RSPB

Bu plant Dosbarth 2 ar safle'r RSPB yng Ngwlypdir y Fali . Yno cawsant wylio'r gwahanol adar a welir ar lyn Penrhyn yn ystod misoedd y Gaeaf. Ar y ffordd yn ol i'r ysgol cafodd pawb hwyl yn bwyta 'marshmallows' ac yn codi llaw ar yr hofrennydd uwchben.
Pupils from class 2 recently visited Valley Wetlands RSPB site. They were able to watch the different waterfowl present on Llyn Penrhyn over the winter months. They particularly enjoyed waving at the yellow helicopter flying over head and the marshmallows on the way back to school.

18 Mar 2011

Diwrnod y Trwynau Coch/Red Nose Day




Today the whole school took part in Comic Relief. Children came dressed in fancy dress and all the staff wore a football kit. The highlight of the morning was a football match between the staff and the school team. Unfortunately young legs were of an advantage to the children, the final score was 4-0 to the school team.
Thank you to one girl for baking over 100 cakes and selling them in school.
The total raised is in excess of £320. Well done everyone, and thank you for you donations!
Heddiw bu plant yr ysgol a'r staff hefyd yn dathlu Diwrnod y Trwynau Coch a hynny drwy 'wneud rhywbeth gwirion am arian'. Daeth y plant i'r ysgol mewn gwisg ffansi ac roedd y staff yn edrych yn ddigon o ryfeddod mewn dillad peldroed! Uchafbwynt y bore oedd gem beldroed hynod gyffrous rhwng tim yr ysgol a thim y staff! Yn anffodus i'r staff roedd coesau ifanc o fantais i'r plant, gyda'r sgor terfynnol yn bedair gol i ddim i dim yr ysgol! Yn ogystal a chyfraniadau'r plant, gwerthwyd dros gant o gacennau bach wedi eu gwneud gan un o'r genethod gan wneud elw dros £320. Diolch o galon i bawb.

Y Glaw/The Rain





Yr wythnos hon rydym wedi bod yn sgwrsio am y glaw. Cawsom hwyl yn rhoi ein hesgidiau glaw mewn parau, yn tynnu llinellau o amgylch pyllau dwr, yn adeiladu arch i Noa ac yn pysgota am hwyaid gan ddarganfod pa rif oedd yn cuddio oddi tanynt.

This week we have been talking about the rain. We had fun sorting out wellies, using chalks to draw round puddles, building an ark for Noah and fishing for ducks and discovering the hidden numbers underneath.

14 Mar 2011

Bike safety / Diogelwch y Ffyrdd

Mae blwyddyn 6 yn cael hyfforddiant beicio diogel am gyfnod o 6 wythnos. Bydd y disgyblion yn cael mynd ar y ffordd fawr i ymarfer eu sgiliau a gwella ansawdd eu beicio. Year 6 are having bike proficiency lessons for the next 6 weeks. They will have the opportunity to ride on the main roads and practice the important lesson learnt on the school yard.

Gwyl Athletau / Athletics Festival

Wythnos diwethaf cafodd blynyddoedd 4 i 6 fynd i wyl athletau yn y ganolfan hamdden yn Caergybi. Cafodd pawb y cyfle i gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth o gystadlaethau. Roedd pawb wedi cael llawer o hwyl a mwynhad. Last week years 4 to 6 were invited to an athletics festival in the Holyhead leisure centre. Everyone was given the opportunity to compete in various activities whilst making new friends and having a fun enjoyable morning.

13 Mar 2011

Handa’s Surprise

Ar ôl darllen llyfr Handa’s Surprise mae dosbarth 1 wedi bod yn brysur yn chwilio am wybodaeth am Kenya ac wedi mwynhau y sialens. Mae’r plant wedi cael y cyfle i greu murlun am y stori, chwilota yn y llyfrgell ac ar y we am wybodaeth am y wlad a chymharu eu ffordd hwy o fyw â ni yma yn Ynys Môn.

After reading the story ‘Handa’s Surprise’, class 1 have been busy gathering information about Kenya and the children have enjoyed the challenge. They have had the opportunity to create a wall frieze about the story, searching for information in the library and on the internet about Kenya and comparing their way of life to ours.

Y mae’r plant wedi bod yn brysur yn paratoi salad ffrwythau gyda ffrwythau sydd yn cael eu tyfu yng Nghenia.
We prepared a fruit salad with fruits which are grown in Kenya.

Cafodd y plant gyfle i greu rhythmau Affricanaidd gyda drymiau.
The children had the opportunity to create African rhythms using various drums.

11 Mar 2011

Diwrnod y Llyfr/World Book Day


Heddiw bu plant yr ysgol yn dathlu Diwrnod y Llyfr. Bu plant hynaf yr ysgol yn darllen storiau i'r plant ieuengaf ac yn gwrando arnynt yn darllen. Mwynhaodd pawb y weithgaredd yn fawr iawn.

Today, the children celebrated World Book Day. The older children read stories to the younger children, and listened to them read. They thoroughly enjoyed participating in this activity.

9 Mar 2011

Dydd Mawrth Ynyd / Shrove Tuesday





Roedd dydd Mawrth diwethaf yn ddydd Mawrth Ynyd a bu plant dosbarth Mrs Davies a phlant y Feithrin yn brysur yn gwneud crempogau. Cafodd pawb grempog i'w bwyta ac yn ol yr wynebau roeddent yn flasus dros ben!

On Shrove Tuesday Mrs Davies' class and the Nursery children had a busy morning making pancakes. Before going home all the children had a pancake to eat and as you can see from their faces, they were very tasty!

7 Mar 2011

Gala Nofio / Swimming Gala

Today pupils from years 3-6 competed in the annual swimming gala in Holyhead. We didn't quite have enough swimmers to compete for the championship, but all of our swimmers tried their hardest and competed well against the other schools. Well done everyone!

Heddiw cystadlodd disgyblion o flynyddoedd 3-6 yn y Gala Nofio. Roedd pawb wedi trio eu gorau ac wedi cael llawer o hwyl. Yn anffodus chafodd neb fedal, dim ots, blwyddyn nesaf efallai. Da iawn pawb!

3 Mar 2011

Dydd Gwyl Dewi Sant/ Saint David's Day




Dydd Mawrth daeth yr ysgol gyfan ynghyd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi Sant. Cafwyd eitemau gan bob dosbarth gan gynnwys y Dosbarth Meithrin. Clywsom amrywiaeth o ganeuon gan y plant ieuengaf a chafwyd nifer o straeon diddorol am Dewi gan y plant hyn. Cawsom hefyd ddatganiadau ar y clarinet a'r ffidilau. Bu'n fore hyfryd a phawb wedi mwynhau.

On Tuesday the whole school came together to celebrate Saint David's Day. All classes including the Nursery took part. We had a variety of songs and stories about Saint David and the children also entertained us with performances on the clarinet and violins. It was a very enjoyable morning.

2 Mar 2011

Dydd Gwyl Dewi/Saint David's Day





Ar y diwrnod cyntaf o Fawrth bu plant y Feithrin yn dathlu Dydd Gwyl Dewi. Daeth dau o'r plant i'r ysgol mewn gwisg Gymreig a chymerodd y dosbarth ran mewn gwasanaeth arbennig yn y Neuadd. Gwnaethom genhinen o bapur a chawsom hwyl yn lliwio baner Cymru. Daeth un o'r genethod hefyd a chwilt hardd iawn i'r ysgol wedi ei wneud gan ei modryb yn yr Unol Daleithiau.

On the first day of March the Nursery children celebrated Saint David's Day. Two children came to school in Welsh costume and the children all took part in a special service in the Hall. We made a paper leek and we coloured the Welsh banner. One of the girls also brought a beautiful quilt to school made especially for her by her Aunt who lives in the United States