27 Mar 2011

Urdd

Contatulations to all the Urdd members at Ysgol y Tywyn. Having created many diferent art pieces, you managed 20 first prizes and 11 second and 6 third prize. This meant the school was awarded the cup for the most prizes in one comptition this year. Well done everyone. Here are a few examples of the successful art work:

Llongyfarchiadau i'r plant hynny o Ysgol y Tywyn a fu'n cystadlu yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd. Yn dilyn gwaith caled cafwyd 20 gwobr gyntaf, 11 ail ac hefyd 6 trydedd wobr. Yn dilyn y llwyddiant ysgubol hwn, daeth y plant yn ol i'r ysgol o Ganolfan Ucheldre gyda chwpan hardd i'r Adran uchaf ei marciau. Bydd y cynnyrch hynny a ddaeth yn gyntaf yn cael eu hanfon yn awr i'r Genedlaethol yn Abertawe ac yn cael eu beirniadu ddiwedd Mai. Dyma ychydig engreifftiau o'r gweithiau llwyddiannus: