22 Jun 2010

Canu Noddedig y Feithrin/ Nursery Sponsored Sing

Fore Llun cymerodd plant y Feithrin ran yn y canu noddedig blynyddol. Cafwyd cefnogaeth dda a phawb wedi mwynhau. Rydym wedi casglu £361.05 Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth.

On Monday, the Nursery children took part in the annual sponsored sing. It was very well attended and everyone thoroughly enjoyed the performance. We managed to raise £361.05 Thank you very much for your support.

Croeso'n ol Ted / Welcome back Ted

Yr wythnos hon, daeth Ted yn ol i'r dosbarth wedi treulio pythefnos yn y Falklands gyda mam Sadie. Cafodd amser bendigedig yn crwydro'r ynys, yn hedfan mewn Typhoon ac yn gwneud ffrindiau newydd!

This week Ted came back to Nursery having spent two weeks with Sadie's mum in the Falklands.He had a lovely time discovering the island, flying in a Typhoon and making new friends!

17 Jun 2010

Neidio Noddedig / Sponsored Bounce

It was a great to see children so happy bouncing away on the bouncy castle. It was even better to see all the efforts that everyone had put in to collect sponsors. Up to date £902.95 has been collected to help fund new books and equipment for various classrooms. Thank you very much to everyone that contributed.

Neis oedd gweld disgyblion yn neidio yn hapus ar y castell neidio. Gwell oedd gweld yr holl ymdrech oedd pawb wedi ei wneud i gasglu arian i'r ysgol. Hyd at heddiw mae £902.95 wedi ei gasglu i helpu ariannu llyfrau newydd ac offer newydd i ambell ddosbarth. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.

Cwmni'r Fran Wen

Cwmni'r Fran Wen visited the years 5&6 to perform their show on bullying. It was very clever showing us that sometimes we can all bully without realising. It made us think, why do bullies bully others?

Daeth Cwmni'r Fran Wen at Flwyddyn 5&6 i berfformio eu sioe ar fwlio. Diddorol iawn oedd sylweddoli ein bod weithiau yn bwlio heb feddwl. Hefyd gwnaeth i ni feddwl, pam mae bwli yn bwlio eraill?

Diolch Dylan / Thank You Dylan

Bore Mercher cafodd plant y Feithrin gyfle i ddweud diolch yn fawr wrth Mr Dylan Williams o Ysgol Uwchradd Caergybi am wneud llinnell rif i'w rhoddi ar y wal y tu allan i'r dosbarth. Derbyniodd gerdyn wedi i bawb ei arwyddo.

On Friday morning the Nursery children had the opportunity to say a big thank you to Mr Dylan Williams from Holyhead High School for making a number line to put on the outside wall. He received a card made by the children.

Mabolgampau'r Feithrin/ Nursery Sports Day

Fore Llun cymerodd plant y Feithrin ran yn eu Mabolgampau blynyddol. Ymunodd y Dragonflies a'r Frogs a ni a chawsom hwyl fawr yn rhedeg, neidio trwy gylchoedd a thaflu bagiau ffa i bwcedi glan mor! Cyn mynd adref cafodd pawb lolipop haeddiannol dros ben!

On Monday morning the Nursery children took part in their annual Sports Day. Dragonflies and Frogs joined us and we had great fun running, jumping through hoops and throwing beanbags into buckets! Before going home we all enjoyed a well earned ice lolly!




16 Jun 2010

Traws Gwlad / Cross Country

On Friday children from years 3-6 visited Rhoscolyn school to compete in the annual cross country competition. We decided to take a bus full of children to take part not only in the race but also in the fun run. No one placed in the top 3 but everyone enjoyed taking part. Well done!

Dydd Gwener cafodd disgyblion blwyddyn 3-6 gystadlu yng ngystadleaeth traws gwlad yn ysgol Rhoscolyn. Penderfynwyd mynd a bws llawn i gystadlu, dim yn unig yn y ras ond hefyd yn y ras hwyl. Ni chafodd neb wobr ond roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Da iawn chi!

Class de Mer

Year 6 were very fortunate again this week with the weather, when they visited Plas Menai for their day 3 trip. Once everybody were kitted out, they set off down the Menai to Beaumaris. Once there, everyone ate their lunch admiring the wonderful view. Later, everyone walked to the Castle where we worked on some orienteering activities. On our way back to the boats we were very lucky to have a tour around the new lifeboat.

Unfortunately the day did have to come to an end, everyone jumped back onto the ribs and headed home towards Plas Menai. Everyone is excited and looking forward to day 4!


Unwaith eto bu plant Blwyddyn 5 a 6 yn ffodus gyda'r tywydd pan ymwelodd y dosbarth a Phlas Menai am y trydydd tro. Roedd pawb wedi eu gwisgo'n addas ar gyfer y daith ar y Fenai i Fiwmares. Wedi cyrraedd mwynhaodd pawb eu cinio tra'n edmygu'r olygfa. Yn dilyn hyn cerddodd pawb at y castell i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfeiriannu . Cyn dychwelyd at y cychod cawsom gyfle i weld y bad achub newydd.

Mae pawb yn awr yn edrych ymlaen am y bedwaredd wers.

14 Jun 2010

Trip y Feithrin / Nursery Trip

Dydd Gwener aeth plant y Feithrin ar eu trip blynyddol. Y flwyddyn hon aethom i barc Gelli Gyffwrdd ger Y Felinheli. Cawsom ddiwrnod bendigedig a sawl un yn dweud eu bod yn gobeithio ymweld a'r parc eto'n fuan!

On Friday the Nursery children went on their annual school trip. This year we went to Greenwood Forest Park near Y Felinheli and we had a lovely day. Hidden amongst the trees were lots of fun activities for mums, dads and children!

Criced / Cricket

Today our team competed in the annual Anglesey Aluminium cricket tournament. Even though the team didn't will all of their games, they played well. Finishing sixth, the team were disappointed, but that soon changed when Tywyn were awarded the fair play award. Well done team.

Heddiw bu tîm yr ysgol yn cystadlu yng ngystadleaeth criced Alwminiwm Môn. Roedd pawb wedi chwarae yn dda iawn a gorffennodd y tîm yn chweched. Roedd pawb yn siomedig gyda hyn, ond newidiodd pethau'n sydyn pan gawsant eu gwobreuo a tharian chwarae teg. Da iawn chi.

10 Jun 2010

Gwyl Gerdded Mon / Anglesey Walking Festival

Fore Mawrth fel rhan o Wyl Gerdded Mon aeth plant Blwyddyn 1, y Dosbarth Derbyn a'r Feithrin i Warchodfa Natur Penrhos. Cawsom fore bendigedig a llwyddodd y glaw i gadw draw. Gwelsom amrywiaeth o flodau gwyllt, adar a choed a chafodd pawb gyfle i fwydo'r hwyaid cyn dychwelyd i'r ysgol.

On Tuesday morning as part of the Anglesey Walking Festival, Year 1 children, the Reception and Nursery Class visited the Penrhos Nature Reserve. We had a lovely morning and the rain kept away. We saw a variety of wild flowers, birds and trees and we all fed the ducks before returning to school.