30 Sept 2011

Ha' Bach Mihangel/Indian Summer





Yr wythnos hon 'rydym wedi bod yn mwynhau'r tywydd braf!

This week we have been enjoying the warm weather!

28 Sept 2011

Manchester United



Once again this year 14 children from ysgol y Tywyn visited Old Trafford in Manchester. This was an amazing opportunity for many children to watch their first ever live football match.

We were all sat above the corner flag, which meant we could see the whole length of the pitch. We were lucky, the first two goals were scored in the first half, right in front of our eyes. Sadly we did also see all 3 of Basel's goals. Luckily Utd did level the match in the very end.

The highlight of the night was having 'Welcome Ysgol Y Tywyn' written on the board at half time. Even though it was a late night, everyone enjoyed themselves and also behaved brilliantly. All the children were a credit to Ysgol Y Tywyn.


Unwaith eto'r flwyddyn hon cafodd 14 o ddisgyblion Ysgol y Tywyn gyfle i fynd i Old Trafford ym Manceinion i wylio gem beldroed rhwng y tim cartref a Basel. Roedd yn brofiad arbennig iawn a llawer o'r plant yn cael cyfle i wylio gem beldroed yn fyw am y tro cyntaf erioed.

Roeddem yn eistedd uwchben y fflag gornel. Golygai hyn ein bod yn gweld i fyny'r cae. Yn ffodus i ni sgoriwyd y ddwy gol gyntaf yn yr hanner cyntaf o dan ein trwynau ond yn anffodus sgoriodd yr ymwelwyr dair gol ym mhen arall y cae. Er mawr ryddhad, llwyddodd United i ddod a'r sgor yn gyfartal cyn diwedd y gem.

Uchafbwynt y noson oedd gweld 'Croeso Ysgol y Tywyn' wedi ei ysgrifennu ar y bwrdd sgorio yn ystod yr hanner amser. Er ei bod yn noson hwyr roedd pawb wedi mwynhau a'r plant i gyd wedi ymddwyn yn arbennig o dda ac yn glod i Ysgol y Tywyn.

22 Sept 2011

Didoli lliwiau/Sorting colours



Yr wythnos hon rydym wedi bod yn didoli lliwiau. Dyma ni yn dosbarthu siapiau, bagiau ffa a cherbydau i setiau o wahanol liw!

This week we have been sorting colours. Here we are sorting bean bags, vehicles and shapes into sets of different colours!

15 Sept 2011

Cylchoedd/Circles





Yr wythnos hon rydym wedi bod yn edrych ar gylchoedd. Cawsom hwyl ar yr helfa, yn printio, yn matsio ac yn chwarae gemau!

This week we have been finding out about circles. As you can see, we had great fun on the hunt, playing games, printing and matching.

12 Sept 2011

Morrisons Vouchers / Talebau Morrisons

After the success of 2010, Let's Grow is back and you can start collecting vouchers now at your local Morrisons. Your support would be greatly appreciated.
For more information click on the here.

Rydym yn casglu talebau 'Let's Grow' Morrisons flwyddyn yma, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn ystod y tymor.

Am fwy o wybodaeth cliciwch
yma.


9 Sept 2011

Yr wythnos gyntaf / Our first week


Y tymor hwn, ein thema yw 'Lliwiau'. Yr wythnos hon mwynhaodd pawb y stori am Yr Hugan Goch Fach. Buom yn ail-adrodd y stori drwy gyfrwng pypedau, gwnaethom fasgedi arbennig yn llawn danteithion a dangosom i'r Hugan Goch Fach y ffordd i dy Nain.

This term our theme is 'Colours'. This week we all enjoyed the story about the Little Red Riding Hood. We retold the story using puppets, we made 'caring' baskets and we showed the Little Red Riding Hood the way to Grandmother's house.





2 Sept 2011



Croeso mawr i'r plant bach newydd a gychwynodd yn y Dosbarth Meithrin heddiw. Mwynhaodd pob un ei ddiwrnod cyntaf yn fawr iawn!

A warm welcome to all the new children who started in the Nursery Class today. They thoroughly enjoyed their first day!

Croeso'n Ol / Welcome Back

Welcome back everyone! We hope you all had a lovely holiday and are ready now for the new term ahead!

Croeso'n ol bawb! Gobeithio eich bod wedi cael gwyliau da ac yn barod yn awr am y tymor newydd.