27 Mar 2014

Sul y Mamau / Mother's Day

Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn ymarfer at Sul y Mamau! Dyma ni yn dystio, golchi, rhoi dillad ar y lein i sychu a smwddio! Dydd Sul  Mam, cewch  roi eich traed i fyny!

This week we have been practising for Mother's Day! Here we are  dusting, washing,  hanging clothes out to dry and ironing. Mums, on Sunday - you can all put your feet up!





26 Mar 2014

Swimming Gala Nofio

Cafodd rhai disgyblion o Flynyddoedd 3 i 6 gyfle i gystadlu yn y gala nofio yng Nghaergybi ddoe.  Llongyfarchiadau i bawb ar eu llwyddiant yn arbennig i un o'r genethod a gafodd yr ail wobr am nofio ar y cefn.

Yesterday some pupils from years 3-6 competed in the Holyhead swimming Gala.  Congratulations to all that took part especially to one pupil who achieved 2nd in  her race.





21 Mar 2014

Brogaod a phenbyliaid / Frogs and tadpoles

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am benbyliaid a brogaod. Cawsom hwyl yn gwylio penbyliaid yn nofio, gwrando ar nifer o wahanol storiau am frogaod, matsio'r nifer cywir o frogaod i'r rhif ar y ddeilen lili, trefnu brogaod yn ol eu maint, lliwio lluniau o frogaod a ffurfio naid broga ar bapur

This week we have been looking at frogs and tadpoles. We've had fun watching wiggly tadpoles swimming, listening to stories about frogs, matching frogs and lily pads, ordering frogs according to size, colouring pictures of frogs and forming frog leaps on paper.







British Gymnastics Proficiency Awards

Here are Class 2 pupils with their gymnastic awards.

Dyma blant Dosbarth 2 gyda'u tystysgrifau gymnasteg.


13 Mar 2014

Rhif 2 / Number 2

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am rhif 2. Rydym wedi dysgu sut i ffurfio'r rhif yn gywir ac hefyd adnabod y rhif drwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau.

This week we've been learning about number 2. We have learnt how to correctly form the number and  recognise the number through games and activities.










Skipping for Charity / Sgipio tuag at Elusen

This morning Class 4 were busy skipping to raise money for Marie Curie.
The target was for the class to achieve 30000 skips in two hours but the pupils managed to complete an amazing 49000 skips.

CONGRATULATIONS to all that took part.

Bore heddiw bu plant Dosbarth 4 yn sgipio, a hynny er mwyn codi arian tuag at Ofal Canser Marie Curie. Y gobaith oedd sgipio 30000 o weithiau mewn 2 awr, ond llwyddodd y plant i sgipio 49000 o weithiau! Anhygoel yn wir!

LLONGYFARCHIADAU i bawb a gymrodd ran.






7 Mar 2014

Lulu'r Oen Bach / Lulu the Lamb

Daeth ymwelydd arbennig i'r Feithrin heddiw sef Lulu'r oen bach! Roeddem wedi gwirioni o'i gweld ac roedd hyd yn oed ein mamau wedi drysu eu pennau! Roedd Lulu wrth ei bodd yn cael ei mwytho a'i anwesu. Diolch yn fawr Miss Pritchard am ddod a hi i edrych amdanom.

We had a very special visitor in Nursery today! It was Lulu the lamb! We were all thrilled to see her, and even our mums were excited! Lulu was very well behaved and she enjoyed being stroked and cuddled. Thank you very much Miss Pritchard for letting her come to see us.




6 Mar 2014

Diwrnod y Llyfr / World Book day

Heddiw bu plant yr ysgol yn dathlu Diwrnod y Llyfr. Bu plant hynaf yr ysgol yn darllen storiau i'r plant ieuengaf ac yn gwrando arnynt yn darllen. Mwynhaodd pawb y weithgaredd yn fawr iawn.

Today, the children celebrated World Book Day. The older children read stories to the younger children, and listened to them read. They thoroughly enjoyed participating in this activity.










5 Mar 2014

Dydd Mawrth Ynyd/ Shrove Tuesday

Roedd dydd Mawrth yn Ddydd Mawrth Ynyd a bu plant y Cyfnod Sylfaen  yn brysur yn gwneud crempogau. Fel y gwelwch o'r lluniau cawsom ddiwrnod difyr a chafodd pawb grempog i'w bwyta cyn mynd adref.

Last Tuesday was Shrove Tuesday and the Foundation Phase children had fun making pancakes. As you can see from the pictures it was a very enjoyable day and we all had a pancake to eat before going home!