16 Dec 2011

DVD

If you would like to purchase a DVD of the Christmas show at a cost of £2.50, please inform a member of staff early in the new year. Thank you

Os ydych yn dymuno prynu DVD o'r Sioe Nadolig am £2.50, rhoddwch wybod i aelod o staff mor fuan a phosibl yn y flwyddyn newydd. Diolch.

Travel back in Rhyme


Congratulations to 3 pupils from year 5 & 6 on their success in writing a poem about a chosen topic in history. The competition was open to all school in the UK and the winners will now have their poems published in a poetry book that will be released in March.

Well done girls!!

Llongyfarchiadau i 3 o ddisgyblion o flwyddyn 5 a 6 am lwyddo i ysgrifennu cerdd am gyfnod hanesyddol. Roedd y gystadleuaeth yn agored i holl ddisgyblion Prydain. Bydd y cerddi llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi mewn llyfr cerddi yn mis Mawrth.


Da iawn Genod!!

15 Dec 2011

Nadolig Llawen / Merry Christmas



We would like to take this opportunity to thank you all for your support during 2011 and we would also like to wish you all a very Merry Christmas and a healthy and prosperous New Year!
The new term begins on the 3th of January.


Hoffem ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch!
Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar Ionawr 3ydd.

13 Dec 2011

Sion Corn yn Wylfa/Santa at Wylfa



Today the Nursery and Reception Class children visited Santa at Wylfa. They all received a lovely gift followed by a drink and biscuit in the cafe. A big thank you to the Visitor Centre staff.



Heddiw ymwelodd plant y Feithrin a'r Dosbarth Derbyn a'r Wylfa. Cafodd bob plentyn anrheg gan Sion Corn ac yna cafodd pawb ddiod a bisgedi yn y caffi. Diolch yn fawr iawn i staff y Ganolfan Ymwelwyr.

12 Dec 2011

Parti Nadolig / Christmas Party



On Monday we had our annual Christmas lunch (which was lovely). Following our lunch we were visited by Santa with his sack full of presents. Every child in Ysgol Y Tywyn were lucky to receive a gift from Santa. Thank you Santa! In the afternoon we had a few fun games and a disco. Everyone thoroughly enjoyed the day!


Dydd Llun cawsom ein cinio Nadolig blynyddol ac fel arfer, roedd yn fendigedig! Ar ol cael llond bol o fwyd daeth Sion Corn i edrych amdanom, gyda'i sach yn llawn anrhegion. Roedd pob plentyn yn ddigon ffodus i gael anrheg ganddo. Yn y prynhawn cawsom ddisgo a chyfle i chwarae gemau. Mwynhaodd pawb y diwrnod yn fawr iawn!

11 Dec 2011

Christmas Show / Sioe Nadolig


























Yesterday, (a day later than planned) we witnessed the greatest show in North Wales. Ysgol y Tywyn re-enacted the story of Cinderella. After weeks of preparation the children performed brilliantly to a packed hall. Thank you to everyone to helped with preparing the children for their big performance.

Ddoe, (ddiwrnod yn hwyr) gwelsom y sioe Nadolig orau yng Ngogledd Cymru. Ar ol wythnosau o baratoi, perfformiodd y disgyblion sioe Cinderella yn wych i neuadd orlawn. Diolch yn fawr iawn i bawb am helpu i baratoi'r disgyblion ar gyfer y perfformiad mawr.

Parti Nadolig Y Feithrin/Nursery Christmas Party




Fore Gwener roedd hi'n ddiwrnod parti yn y Feithrin. Buom yn dawnsio, chwarae gemau ac yng nghanol ei brysurdeb daeth Sion Corn i edrych amdanom a'i sach yn llawn anrhegion. Diolch yn fawr Sion Corn.

Last Friday was party day in the Nursery. We danced, played games and there was great excitement when Santa arrived with a sackful of presents. Thank you very much Santa.

5 Dec 2011

Cyngerdd Nadolig Y Feithrin/Nursery Christmas Concert






Bore heddiw gwelwyd cyngerdd blynyddol y Dosbarth Meithrin a'r Dragonflies. Y testun eleni oedd 'A Party For Jesus' a chafwyd stori'r geni ar ei newydd wedd. Fel y gwelwch o'r lluniau, roedd yn gyflwyniad lliwgar, llawn hwyl.

Today the Nursery and Dragonflies held their annual Christmas concert. This year the children presented the Nativity Story under the title 'A Party For Jesus'. As you can see from the pictures, it was colourful, full of fun and thoroughly enjoyed by all!

21 Nov 2011

Classe de Mer

Last week year 6 visited 'Sea Zoo' as part of their Classe de Mer. Children were taught many different interesting facts including how the shoreline in shaped and how waves are created. Later in the day they were given opportunities to hold various sea animals including starfish, crabs and lobsters. Everyone had a great day and learned a lot about the importance of looking after our coastline.

Yr wythnos ddiwethaf, fel rhan o'r prosiect y 'Classe de Mer' ymwelodd Blwyddyn 6 a 'Sw Mor'. Yn ystod y diwrnod dysgodd y plant lawer o ffeithiau diddorol am y mor yn cynnwys gwybodaeth am sut y ffurfiwyd yr arfordir a sut mae tonnau yn cael eu creu. Cawsant gyfle i afael mewn amrywiaeth o greaduriaid yn cynnwys seren for, cimychiaid a chrancod. Bu'n ddiwrnod arbennig o dda a dysgwyd llawer am bwysigrwydd gwarchod yr arfordir.





Christmas Fair/Ffair Nadolig

Last night we held our annual Christmas Fair. It was a very successful evening and we're hoping that the proceeds will be well over a £1,000. Thank you all very much for your support.

Neithiwr cynhaliwyd ein Ffair Nadolig flynyddol. Bu'n noson lwyddiannus ac rydym yn gobeithio y bydd yr elw oddeutu £1,000. Llawer o ddiolch i chi am eich cefnogaeth.

18 Nov 2011

Plant Mewn Angen/Children in Need




A hithau'n ddiwrnod Plant Mewn Angen, bu'n fore prysur yn y Feithrin. Daeth pawb i'r ysgol mewn gwisgoedd amrywiol a daeth Debs a Capten Jack atom i ganu. Dangosodd y ddau i ni sut i 'arwyddo' caneuon bach syml ac ymatebodd y plant yn arbennig o dda. Roedd Capten Jack wedi dotio. Diolch yn fawr i'r ddau ohonoch a diolch i bawb am eu cyfraniad.


This morning the Nursery children had lots of fun raising money for 'Children in Need'. We came to school wearing our own clothes and Debs and Captain Jack came to see us. They taught us how to 'sign' familiar songs and the children responded well. Captain Jack was amazed! Thank you both very much and thank you all for your generosity.