4 Jul 2014

Trip Ysgol / School Trip

Dydd Gwener diwethaf aeth plant Dosbarth 1 a 2 am drip i Erddi Bodnant a Chastell Penrhyn. Ym Modnant gwelsom lawer o lwyni, coed a blodau. Roedd priodas ym Modnant hefyd y diwrnod hwnnw ac roedd y plant wrth eu bodd yn aros i weld y briodasferch. Roedd y picnic a gafwyd o dan y coed yn hwyl a bocs bwyd pawb yn llawn i'r ymylon.Yng Nghastell Penrhyn  cawsom gyfle i weld y ty hynafol gyda'r gwely wedi ei wneud ar gyfer y frenhines Fictoria. Roedd yno hefyd ddodrefn hardd a chasgliad o luniau gwerthfawr.  Diwrnod i'w gofio yn wir!


Last Friday pupils from Class 1 and 2 visited Bodnant Gardens in the Conway Valley and Penrhyn Castle. We saw lots of trees and flowers. There was a wedding at the Pin Mill whilst we were there and the children were very excited waiting to see the bride. The picnic under the trees was great fun and we all had far too much food in our lunch boxes. Penrhyn Castle had lots of fascinating items such as a slate bed made for Queen Victoria, carvings, lovely furniture and a collection of paintings. A great day out!




2 Jul 2014

Canu Noddedig / Sponsored Sing


Fore heddiw cymrodd plant y Feithrin ran yn y canu noddedig blynyddol. Cafwyd cefnogaeth dda a phawb wedi mwynhau. Rydym yn gobeithio casglu digon o arian i brynu adnoddau ar gyfer y tu allan. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth.

Today, the Nursery children took part in the annual sponsored sing. It was very well attended and everyone thoroughly enjoyed the performance. We are hoping to raise enough money to buy outdoor play equipment. Thank you very much for your support.






1 Jul 2014

Garddio / Gardening

Here are some of the children with the school cook picking lettuce from the garden to enjoy with their lunch.

Dyma rai o'r plant a'r gogyddes yn casglu letys o ardd yr ysgol i fwyta amser cinio.


Mabolgampau / Sports Day

Yesterday we had our annual sports day.  We had a fantastic day competing in various sporting events.  We even had a mums and dads race! Who would think they would be so competitive?  Well done everyone on your success.

Brynhawn ddoe cawsom ein Mabolgampau blynyddol.  Cafodd pawb ddiwrnod arbennig o dda gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol rasus.  Roedd y rhieni yn hynod  gystadleuol yn eu ras hwy! Pwy fuasai'n meddwl?  Llongyfarchiadau i bawb.




Tree Top Adventures

On Friday, classes 3 and 4 visited Tree Top Adventures, a high ropes course in Betws y Coed.  The children managed to climb from tree to tree manouvering over various obstacles.   Everyone had a fantastic time. Congratulations on your achievements.

Dydd Gwener diwethaf, ymwelodd dosbarth 3 a 4 a Tree Top Adventures, sef cwrs rhaffau uchel ym Metws y Coed.  Roedd yn rhaid i'r plant ddringo o goeden i goeden gan symud dros amrywiaeth o rwystrau. Cafwyd amser bendigedig. Llongyfarchiadau i bawb ar eu gorchestion.