21 Nov 2011

Classe de Mer

Last week year 6 visited 'Sea Zoo' as part of their Classe de Mer. Children were taught many different interesting facts including how the shoreline in shaped and how waves are created. Later in the day they were given opportunities to hold various sea animals including starfish, crabs and lobsters. Everyone had a great day and learned a lot about the importance of looking after our coastline.

Yr wythnos ddiwethaf, fel rhan o'r prosiect y 'Classe de Mer' ymwelodd Blwyddyn 6 a 'Sw Mor'. Yn ystod y diwrnod dysgodd y plant lawer o ffeithiau diddorol am y mor yn cynnwys gwybodaeth am sut y ffurfiwyd yr arfordir a sut mae tonnau yn cael eu creu. Cawsant gyfle i afael mewn amrywiaeth o greaduriaid yn cynnwys seren for, cimychiaid a chrancod. Bu'n ddiwrnod arbennig o dda a dysgwyd llawer am bwysigrwydd gwarchod yr arfordir.





Christmas Fair/Ffair Nadolig

Last night we held our annual Christmas Fair. It was a very successful evening and we're hoping that the proceeds will be well over a £1,000. Thank you all very much for your support.

Neithiwr cynhaliwyd ein Ffair Nadolig flynyddol. Bu'n noson lwyddiannus ac rydym yn gobeithio y bydd yr elw oddeutu £1,000. Llawer o ddiolch i chi am eich cefnogaeth.

18 Nov 2011

Plant Mewn Angen/Children in Need




A hithau'n ddiwrnod Plant Mewn Angen, bu'n fore prysur yn y Feithrin. Daeth pawb i'r ysgol mewn gwisgoedd amrywiol a daeth Debs a Capten Jack atom i ganu. Dangosodd y ddau i ni sut i 'arwyddo' caneuon bach syml ac ymatebodd y plant yn arbennig o dda. Roedd Capten Jack wedi dotio. Diolch yn fawr i'r ddau ohonoch a diolch i bawb am eu cyfraniad.


This morning the Nursery children had lots of fun raising money for 'Children in Need'. We came to school wearing our own clothes and Debs and Captain Jack came to see us. They taught us how to 'sign' familiar songs and the children responded well. Captain Jack was amazed! Thank you both very much and thank you all for your generosity.

15 Nov 2011

Beicio Noddedig/Sponsored Bike Ride


Last Friday the school took part in a Sponsored Bike Ride to raise funds for Cancer Research. Having received permission from Search and Rescue, we all rode our bikes and scooters along the runway. It was a very exciting afternoon and we are now hoping to raise lots of money for this very worthy cause.

Brynhawn Gwener cafodd y plant brofiad arbennig iawn. Cawsant ganiatad gan wasanaeth achub y Llu Awyr i feicio ar redfa'r maes awyr a hynny er mwyn codi arian tuag ar Gronfa Ymchwil Canser. Bu'n brynhawn i'w gofio a mawr obeithiwn y byddwn yn llwyddo i godi llawert o arian tuag at yr achos teilwng hwn.


4 Nov 2011

Beicio Noddedig/Sponsored Bike Ride




This morning the Nursery children took part in a sponsored bike ride to raise funds for Cancer Research. We rode our bikes and scooters on the school yard and now we're all hoping to raise lots of money for this very worthy cause.

Bore heddiw bu plant y Feithrin yn brysur yn codi arian tuag at Gronfa Ymchwil Canser a hynny drwy reidio beic ar iard yr ysgol. Cawsom lawer o hwyl ac rydym yn awr yn gobeithio y byddwn yn codi llawer o arian tuag at y gronfa hon.