30 Jan 2014

Yr Urdd

Children who are members of the Urdd are very busy at the moment making all sorts of arty crafty things for the competition. Some children are making clay models, some are sewing, some are painting on silk and some are making paper sculptures. It's really good fun. The Urdd Club meets once a week after school.

Mae aelodau'r Urdd yn brysur iawn y dyddiau hyn yn paratoi at gystadlaeaeth Celf a Chrefft yr Urdd. Mae rhai yn gwneud modelau o glai, mae rhai yn gwnio, rhai yn paentio ar silc ac eraill yn gwneud cerfluniau o bapur. Mae'n dipyn o hwyl! Mae Clwb yr Urdd yn cyfarfod unwaith yr wythnos.

Mr Lasham's Visit/ Ymweliad Mr Lasham

As part of our project work about the winter, Mr Lasham, Shannally and Tatty's dad, very kindly came into school to tell us all about the Mountain Rescue team. We had a fantastic morning learning how to find people in avalanches with the avalanche transceivers. We enjoyed seeing Miss Pritchard in the stretcher and finding the dummy in the school grounds. We have made some cards for Mr Lasham to say Thank You.

Fel rhan o'n thema am y gaeaf, daeth Mr Lasham, tad Shannally a Tatty i'r ysgol i siarad am y Tim Achub Mynydd. Cawsom fore difyr yn dysgu sut i gael hyd i bobl mewn eirlithriadau drwy ddefnyddio teclynnau pwrpasol. Cafodd pawb hefyd hwyl yn gwylio Miss Pritchard yn cael ei rhoddi mewn cludwely ac wedyn yn chwilio am ddymi ar dir yr ysgol! Rydym wedi gwneud cardiau i Mr Lasham i ddweud diolch yn fawr.




Big Schools' Birdwatch

We have been very busy in class 2 getting ready for the Big Schools' Birdwatch. We had to learn how to use binoculars and then we made some bird cakes to try to entice the birds to visit the patch of ground in front of our class. On the bird watch day we had great fun practicing how to be quiet and still so that we didn't frighten the birds away! we are now busy sending our results to the RSPB and drawing graphs.

Rydym wedi bod yn brysur yn Nosbarth 2 yn paratoi at ddiwrnod Gwylio Adar yr RSPB. Roedd yn rhaid dysgu sut i ddefnyddio ysbienddrych ac wedyn cafodd pawb gyfle i wneud cacenau ar gyfer yr adar i geisio eu denu i lecyn cysgodol o flaen ein dosbarth ni. Ar y diwrnod cawsom hwyl yn cadw'n dawel a llonydd fel nad oeddem yn dychryn yr adar. Rydym wrthi yn awr yn anfon ein canlyniadau i'r RSPB ac yn llunio graffiau



.




29 Jan 2014

Ein gwers ymarfer corff cyntaf / Our first PE lesson

Dyma ni yn mwynhau ein gwers Ymarfer Corff gyntaf
Here we are enjoying our first PE lesson






24 Jan 2014

Mr Earnest

Thank you to Mr Earnest and his team for our assembly on Wednesday.  They kindly came over to re-tell the story of Joseph.

Diolch yn fawr i Mr Earnest a'i gyfeillion  am eu gwasanaeth fore Mercher.  Cawsom wrando ar stori Joseph.

23 Jan 2014

Alfie

Today Alfie and his mum came to visit. The children, including Alfie's big sisters, were very excited to see him and they were all given the opportunity to ask questions about the way Alfie's mum cares for him.

Heddiw daeth Alfie a'i fam i edrych amdanom. Roedd plant y dosbarth, yn cynnwys chwiorydd Alfie, wedi dotio ato a chafodd bob plentyn gyfle i ofyn cwestiynau i'w fam am y modd y mae'n gofalu amdano.



21 Jan 2014

PWYSIG / IMPORTANT

PWYSIG
Os yw eich plentyn yn 3 oed cyn Medi’r 1af 2014, ac rydych yn awyddus i wneud cais am le yn y Dosbarth Meithrin, gellir cael ffurflen mynediad gan Mrs Raffle, y Pennaeth. Gofynwn i chi ddychwelyd eich ffurflen i'r ysgol cyn Chwefror 21ain os gwelwch yn dda. Os ydych yn dymuno anfon eich ffurflen i'r Swyddfa Addysg yn Llangefni yn hytrach na'r ysgol, bydd disgwyl i'r ffurflen gyrraedd y swyddfa cyn Mawrth 1af. 

DS. Os yw'r dosbarth wedi cyrraedd ei rif mynediad, ni roddir ystyriaeth i unrhyw gais sy'n cael ei dderbyn wedi Mawrth 1af beth bynnag fo cyfeiriad y plentyn.

IMPORTANT  
If your child is 3 years old before the 1st of September 2014 and you would like him/her to attend the Nursery Class at Ysgol y Tywyn, please ask for an application form from the headteacher Mrs Raffle. We ask that you send the completed form back to school before the 21st of February 2014. If you wish to return the form directly to the Education Authority, it is essential that the form arrives in Llangefni before the 1st of March.

NB. If the numbers applying for a place in the Nursery Class exceed the admission number of the school, applications received after the first of March will not be considered' even if you live in the catchment area of Ysgol y Tywyn.




16 Jan 2014

Ein hymweliad a'r Lilypad / Our Visit to the Lilypad

Dyma ni yn mwynhau ein hymweliad a'r Lilypad

Here we are enjoying our visit to the Lilypad

This is fun! We love your toys!

Thank you Tadpoles!  Hope to see you again very soon! 

Storytime with Alison!

Enjoying snack!

Playing outside. 

Our visit to the Sorting Office / Ein hymweliad a'r Swyddfa Ddosbarthu.


As part of this term’s work about The Postman, Class 1 visited the Sorting Office in Holyhead. Mr Eifion Jones showed us around the office. The children were shown the big trolleys which the mail arrives on and then how and where it is sorted into the right bag to be delivered. They saw where the letters for Ysgol y Tywyn is placed when sorted. The children had been busy making cards to post. After they were  stamped the children posted them in the pink sack which went to Chester to be sorted. The sack arrived back in school the following day.




Fel rhan o’r gwaith y tymor hwn ar Y Postmon, mae Dosbarth 1 wedi ymweld a’r Swyddfa Bost yng Nghaergybi.  Fe ddangosodd Mr Eifion Jones ni o amgylch y swyddfa. Dangosodd i ni y troliau mawr y mae’r post yn cyrraedd arnynt ac wedyn sut ac yn lle mae yn cael ei ddidoli a’I roi yn y sach cywir. Dangosodd Mr Jones I’r plant ym mhle ‘roedd llythyrau Ysgol y Tywyn yn cael eu rhoi. Yr oedd y plant wedi bod yn brysur yn ysgrifennu cardiau cyn mynd I’r swyddfa I’w postio. Ar ol iddynt gael eu stampio fe bostiodd y plant nhw mewn sach pinc. Fe aeth hwn wedyn I Gaer a daeth y postmon a’r cardiau I’r ysgol y diwrnod canlynol.

10 Jan 2014

Rhif 1 / Number 1

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am rif 1. Rydym wedi dysgu sut i ffurfio'r rhif yn gywir ac hefyd adnabod y rhif drwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau.

This week we've been learning about number 1. We have learnt how to correctly form the number and  recognise the number through games and activities.






9 Jan 2014

Blwyddyn newydd dda / Happy New Year

Croeso'n ol a Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Rydym i gyd yn edrych ymlaen at dymor newydd difyr a phrysur.

Welcome back everyone and a Happy New Year! We are all looking forward to a busy and exciting new term.

2 Jan 2014

Nadolig Llawen / Merry Christmas



We would like to take this opportunity to thank you all for your support during 2013 and we would also like to wish you all a very Merry Christmas and a healthy and prosperous New Year!

The new term begins on the 6th of January.

Hoffem ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch!
Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar Ionawr 6ed..

Parti Nadolig / Christmas party

On Tuesday afternoon we had our annual Christmas party.  We were very lucky once again to be visited by Father Christmas who kindly gave each child a gift whilst he was on his rounds.

Brynhawn Mawrth cawsom ein parti Nadolig blynyddol. Unwaith eto eleni daeth Santa, ynghanol ei brysurdeb, i edrych amdanom, gyda anrheg i bob plentyn.


School choir at the mess

On Sunday night the school choir performed at the officers mess.  The singing was excellent.  Well done everybody.

Nos Sul bu cor yr ysgol yn canu yn y gwasanaeth carolau yn yr 'Officer's Mess'. Roedd y canu yn fendigedig! Da iawn bawb!

Pantomime in Llandudno

Yesterday afternoon the whole school went on a visit to Venue Cymru in Llandudno to watch Sleeping Beauty.  Everyone thoroughly enjoyed themselves and behaved brilliantly.

Ddoe aeth holl blant yr ysgol i Venue Cymru, Llandudno i wylio pantomeim Sleeping Beauty. Mwynhaodd pawb y perfformiad a phob un wedi ymddwyn yn rhagorol.

Christmas dinner

On Tuesday we had our Christmas dinner, thank you to all the kitchen staff for the wonderful meal.

Dydd Mawrth cawsom ein cinio Nadolig. Diolch i staff y gegin am bryd bendigedig!