28 Sept 2012

The Three Bears


Stori’r wythnos hon oedd Elen Benfelen a’r Tri Arth.  Ymysg y gweithgareddau cafodd y plant gyfle i dynnu llinellau i ddangos y ffordd adref i’r tri arth, gwneud modelau o’r tri arth gyda clai, ond yr hwyl fwyaf a gawsant oedd gwneud uwd i’r tri arth. Mwynhaodd  yr eirth yr uwd yn fawr iawn!

This week’s story was The Three Bears. The children enjoyed drawing lines to show the bears the way home, making bear models with playdoh and best of all, making porridge for the bears. And if the empty bowls were anything to go by, they really enjoyed it!




23 Sept 2012

'O' am Oliver/ 'O' is for Oliver




Yr wythnos hon cawsom stori am Oliver yr arth fach a gollodd ei ffordd wrth redeg ar ol deilen grin. Cawsom hwyl yn chwilio am ddail allan ar yr iard gyda'r lythyren 'O' am Oliver arnynt a chawsom gyfle hefyd i gloddio am y lythyren a ffurfio'r lythyren gyda paent, dwr, playdoh a sialc.

This week we all enjoyed a story about Oliver the little bear who got lost while running after a yellow leaf. We had fun out on the yard looking for leaves with the letter 'O' for Oliver on them, and we also enjoyed digging for 'O' and forming the letter with paint, water, playdoh and chalk.


Take Home Ted

Bore heddiw bu plant bach y Feithrin yn cyflwyno eu hunain i Take Home Ted. Cafodd pawb gyfle i roddi mwytha iddo ac addo edrych ar ei ol! Mae Ted yn dedi bach arbennig iawn. Cafwyd hyd iddo mewn bocs y tu allan i'r Feithrin rai blynyddoedd yn ol. Roedd nodyn yn y bocs yn dweud ' Os gwelwch yn dda a wnewch chi edrych ar fy ol.' Bob bore Gwener bydd Ted yn mynd adref gyda un o'r plant gan ddychwelyd i'r ysgol fore Llun gyda hanes y penwythnos.

This morning the Nursery children introduced themselves to Take Home Ted. They gave him a big hug and promised to take good care of him! Ted is a very special little bear. He was found in a box outside Nursery many years ago. There was a note inside the box which said 'Please look after me'. Every Friday Ted goes home with one of the children and on Monday he comes back to school and we hear all about his weekend adventures.


Yr wythnos gyntaf/Our first week





Bu'r wythnos gyntaf yn wythnos brysur dros ben yn y Feithrin ac fel y gwelwch cafodd y plant gyfle i brofi amrywiaeth o wahanol weithgareddau.

The first week was a very busy week in the Nursery and as you can see, the children enjoyed a variety of different activities.

11 Sept 2012

Our New School Council / Cyngor Ysgol








Here are our new school council.


Again this year we hope to change/improve our school with ideas from the pupils at the school. These ideas will be discussed by the school council and a decision will be made whether or not the idea will be used in our school.

Dyma aelodau newydd y Cyngor Ysgol.
Unwaith eto'r flwyddyn hon rydym yn gobeithio gwella'r ysgol a hynny drwy dderbyn syniadau newydd gan y disgyblion. Bydd y syniadau wedyn yn cael eu rhoi o flaen aelodau'r Cyngor a ganddynt hwy y bydd y gair olaf.

5 Sept 2012

Croeso'n ol / Welcome Back

Croeso'n ol i bawb ar ol gwyliau'r Haf a chroeso arbennig i'r plant bach newydd a gychwynodd yn y Dosbarth Meithrin heddiw. Mwynhaodd pob un ei ddiwrnod cyntaf yn fawr iawn!

A warm welcome to all the new children who started in the Nursery Class today. They thoroughly enjoyed their first day! Welcome back to everyone after the Summer holiday.