15 Apr 2011

Yr Helfa Wyau/ Easter Egg Hunt




Fore Gwener cymerodd y plant ieuengaf ran yn yr Helfa Wyau flynyddol. Cafwyd llawer iawn o hwyl a daeth Tatiana o hyd i'r sach wyau y TU MEWN i'r peiriant golchi llestri yn yr ystafell athrawon. Mae'n rhaid ei bod yn gwningen glyfar iawn - roedd digon o wyau ar gyfer y plant a'r athrawon.


On Friday morning the children took part in the annual Easter Egg Hunt.It was a very enjoyable morning and the cache of eggs was found by Tatiana INSIDE the dishwasher in the staffroom! He must be a very clever rabbit as there were just enough eggs for all the children and one each for the staff.

13 Apr 2011

Pel-droed / Football

Today Ysgol y Tywyn football team visited Ysgol Kingsland in Holyhead for our 4th Match. The game started very evenly with both teams playing well. Tywyn were the first team to score just before half time. Kingsland were quick to score an equalizer, but Tywyn kept their heads up and scored again twice. Kingsland fought back but Tywyn scored again to make the final score 4-2. Well done everybody you played well and deserved to win.

Heddiw ymwelodd tim pel-droed yr ysgol a Ysgol Kingsland yng Nghaergybi. Dechreuodd y gem yn weddol gyfartal gyda'r ddau dim yn chwarae'n dda. Tywyn oedd y tim cyntaf i sgorio ychydig cyn hanner amser. Daeth Kingsland a'r sgor yn gyfartal yn weddol fuan ar ol cychwyn yr ail hanner, ond cadwodd hogia Tywyn eu pennau i fyny gan sgorio ddwy waith. Brwydrodd Kingsland yn galed gan sgorio unwaith eto, ond Tywyn ennillodd y gem gan sgorio i wneud y sgor terfynol yn 4-2. Da iawn chi hogia, roeddech yn haeddu ennill.

10 Apr 2011

Classe de Mer

On Friday, year 6 once again were on RIB speed boats. This time they were enjoying the fantastic weather and were wildlife spotting along the Menai Straits. In the afternoon we lifted the lobster pots that were laid in the morning to look closer at what was caught. Everyone had a great day, thank goodness for the amazing weather.

Dydd Gwener, fel rhan o brosiect y 'Classe de Mer' bu plant blwyddyn 6 mewn cychod cyflym ar y Fenai. Yn y bore cawsant gyfle i wylio'r bywyd gwyllt ar lan yr afon a gosod cewyll i ddal cimychiaid.Yn y prynhawn cafodd y plant godi'r cewyll er mwyn astudio eu cynnwys. Cafodd pawb ddiwrnod bendigedig a'r tywydd braf yn goron ar y cyfan.

7 Apr 2011

Dathlu'r Pasg/Celebrating Easter



Yr wythnos hon rydym wedi bod yn brysur yn paratoi at y Pasg drwy wneud cardiau a basgedi. Gobeithio y bydd gan Cwningen y Pasg rywbeth ar ein cyfer! Croeso cynnes i Miss Kirsty Nash ar ei phenodiad yn gymhorthydd yn y dosbarth. Rydym yn gobeithio y bydd yn hapus iawn gyda ni.
This week we have been preparing for Easter by making cards and baskets. Let's hope the Easter Bunny will have something for us! A warm welcome to Miss Kirsty Nash who has been appointed as an assistant in our class. We all hope she will be very happy with us.

Disgo / Disco

Neithiwr roedd hi'n noson ddisgo. Cafwyd cefnogaeth dda a'r plant a'u rhieni wedi mwynhau. Yn ogystal a chael cyfle i ddawnsio roedd cyfle hefyd i wario ceiniog neu ddwy ar ffyn golau, cwn poeth, cacennau, diodydd, pethau da, tatws a phaentio wynebau. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Yesterday evening was disco night. It was well supported and both children and parents really enjoyed themselves. As well as having the opportunity to dance the children were also able to spend a penny or two on glow sticks, hot dogs, cakes, drinks, sweets, tatoos and face painting. Thank you all very much.

4 Apr 2011

Iwan Llewelyn Jones

Today Years 5 & 6 were invited to a workshop at the Ucheldre in Holyhead with Iwan Llewelyn Jones. They were given the opportunity to listen to a variety of music and perform alongside him with their own musical instruments.

Heddiw cafodd Blynyddoedd 5 a 6 wahoddiad i weithdy cerdd yn yr Ucheldre yng Nghaergybi gyda Iwan Llewelyn Jones. Cawsant y cyfle i wrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth ac hefyd perfformio gydag ef gan ddefnyddio eu hofferynnau eu hunain.

3 Apr 2011

Ymweliad y Frenhines/ Royal Visit


Roedd dydd Gwener diwethaf yn ddiwrnod cyffrous iawn i blant Ysgol y Tywyn. Cafodd yr ysgol wahoddiad i fynd i safle'r awyrlu i groesawu'r Frenhines a oedd ar ymweliad a'r ganolfan. Cludwyd pawb mewn bws i'r hangar newydd, ac roedd y plant yn llawn cynnwrf ac yn chwifio eu baneri pan gamodd y Frenhines a Dug Caeredin allan o'r cerbyd. Cafodd sawl un gyfle i sgwrsio a'r ddau, a bu'n foment fythgofiadwy i un o Blwyddyn 5 ac un o'r Dosbarth Meithrin pan gyflwynodd y ddau dusw o flodau i'r Frenhines.

Friday was a very exciting day for the the children of Ysgol y Tywyn. They were invited to the RAF base to welcome the Queen as she visited Prince William at the new hanger. Everyone waved their Welsh flags as the Queen came out of her car. Many children had the opportunity to say 'hello' as she walked passed. Two children, one from the Nursery class and one from Year 5 had a moment they will never forget as they presented the Queen with flowers.