26 May 2013

Colin Jackson

Dydd Mawrth diwethaf, fel rhan o ymgyrch  GO DAD RUN, ymwelodd Colin Jackson â RAF  Fali. Mae Colin Jackson yn gyn-athletwr  mewn sbrint a neidio clwydi ac yn ffodus i ni  roedd amser ganddo i ymweld â’r ysgol. Cafodd sgwrs ddifyr gyda un o’n disgyblion a oedd wedi llwyddo ddechrau’r wythnos  i gerdded y 10.5 milltir o’i gartref yng  Gapel Mawr i Ysgol y Tywyn a hynny fel rhan o Wythnos Cerdded i’r Ysgol. Cwbwlhaodd y daith mewn ychydig dros bedair awr. Tipyn o gamp yn wir!

Last Tuesday Colin Jackson, the former sprint and hurdling athlete, visited RAF Valley as part of his GO DAD RUN Campaign. Fortunately for us, he found time to visit the school. He had a very interesting chat with one of our pupils who last Monday, as part of Walk to School Week, walked 10.5 miles from his home in Capel Mawr to Ysgol y Tywyn.  He completed the walk in a time of 4hours 10 minutes! Quite an achievement!






Trip y Feithrin/Nursery School Trip

Dydd Gwener roedd yn ddiwrnod trip y Feithrin. Aeth llond bws o blant, mamau a thadau am Lanberis. Cawsom reid ar y tren bach a chawsom hwyl yn chwarae yn Y Den! Aeth pawb adref yn flinedig ond wedi cael diwrnod da!

On Friday the Nursery children went on their annual school trip. This year we went to Llanberis .We took a trip on the Llanberis Lake Railway and had fun playing in The Den, an indoor play centre in the Electric Mountain Visitors Centre! We arrived back at school tired but having thoroughly enjoyed ourselves.








17 May 2013

Brogaod a Phenbyliaid/Frogs and Tadpoles

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am benbyliaid a brogaod. Cawsom hwyl yn gwylio penbyliaid yn nofio, gwrando ar nifer o wahanol storiau am frogaod, canu can am y 'little green frog', matsio'r nifer cywir o frogaod i'r rhif ar y ddeilen lili, trefnu brogaod yn ol eu maint, lliwio lluniau o frogaod a ffurfio naid broga ar bapur

This week we have been looking at frogs and tadpoles. We've had fun watching wiggly tadpoles swimming, listening to stories about frogs, singing about the little green frog, matching frogs and lily pads, ordering frogs according to size, colouring pictures of frogs and forming frog leaps on paper.








13 May 2013

Rhif 4 / Number 4

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am rif 4. Rydym wedi dysgu sut i ffurfio'r rhif yn gywir ac hefyd adnabod y rhif drwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau.

This week we've been learning about number 4. We have learnt how to correctly form the number and  recognise the number through games and activities.







7 May 2013

New Kit/Gwisg Peldroed Newydd

Here is our new football kit.
Dyma ein gwisg peldroed newydd.

Peldroed / Football

Congratulations once again to our football team.  After a shaky first half, Tywyn were a goal down, but if it wasn't for the fantastic goalkeeping from Rhoscolyn we would be level.  The second half started with a much quicker pace, with Tywyn finally leveling the score.  From then on the confidence grew a lot stronger.  Eventually the game ended 4-1 to Tywyn, but again if it was not for the fantastic saves from Rhoscolyn's goalkeeper, I feel the difference would have been much more.  Thank you to our visitors, and well done Tywyn on your unbeaten run.

Llongyfarchiadau unwaith eto i'n tim peldroed. Trechodd y tim Ysgol Rhoscolyn mewn gem gyffrous brynhawn Gwener diwethaf. Ar ol cychwyn ychydig yn sigledig roedd Tywyn un gol i lawr. Roedd dechrau'r ail hanner yn llawer cyflymach a Tywyn yn fuan iawn yn lefelu'r sgor. Datblygodd yr hyder a cynyddodd nifer y goliau! Y sgor terfynnol oedd 4 - 1. Onibai am arbedion penigamp golgeidwad Rhoscolyn, fe fyddai'r gwahaniaeth yn y sgor wedi bod dipyn yn fwyl! Llawer o ddiolch i'r ymwelwyr am gem ddifyr a da iawn unwaith etoTywyn ar eich rhediad di-guro! 


3 May 2013

Malwod a Throellau/ Snails and Spirals

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn edrych ar falwod a'u cregyn. Aethom am dro i chwilio am falwod ond yn anffodus roeddent i gyd yn cysgu'n sownd! Dyma ni yn ffurfio troellau ar bapur ac mewn sebon shafio ac yn gwneud malwod gyda Playdoh!

This week we have been looking at snails and their shells. We went looking for snails but unfortunately they were all fast asleep! Here we are forming spirals on paper and in shaving foam and making snails with Playdoh!





Gerddi Bodnant/Bodnant Gardens

Yr wythnos hon aeth plant Dosbarth 2 am dro i Erddi Bodnant. Roedd y tywydd yr un mor fendigedig a'r ardd! Gwelsom lawer o lwyni Rhododendron, Camelia a Magnolia. Dyma flodau sydd yn amlwg yn mwynhau tyfu yn yr ardal goediog hon. Nid yw'r Camelia sydd gennym yn yr ysgol yn hoffi ein pridd ni ac mae'r dail wedi melynu. Fe fyddai ychydig o waed ac esgyrn yn gwneud y tric! Roedd priodas ym Modnant hefyd y diwrnod hwnnw ac roedd y plant wrth eu bodd yn aros i weld y briodasferch. Roedd y picnic a gafwyd o dan y coed yn hwyl a bocs bwyd pawb yn llawn i'r ymylon. Diwrnod i'w gofio yn wir!


Pupils from Class 2 visited Bodnant Gardens in Conway this week.The weather was as beautiful as the garden! We saw lots of Rhododendrons, Camellias and Magnolia flowers which seem to enjoy living in this wooded area. The Camellia we have at school does not like our soil as its leaves have turned yellow, a little blood and bone should do the trick. There was a wedding at the Pin Mill whilst we were there and the children were very excited waiting to see the bride. The picnic under the trees was great fun and we all had far too much food in our lunch boxes. A great day out!