3 May 2013

Gerddi Bodnant/Bodnant Gardens

Yr wythnos hon aeth plant Dosbarth 2 am dro i Erddi Bodnant. Roedd y tywydd yr un mor fendigedig a'r ardd! Gwelsom lawer o lwyni Rhododendron, Camelia a Magnolia. Dyma flodau sydd yn amlwg yn mwynhau tyfu yn yr ardal goediog hon. Nid yw'r Camelia sydd gennym yn yr ysgol yn hoffi ein pridd ni ac mae'r dail wedi melynu. Fe fyddai ychydig o waed ac esgyrn yn gwneud y tric! Roedd priodas ym Modnant hefyd y diwrnod hwnnw ac roedd y plant wrth eu bodd yn aros i weld y briodasferch. Roedd y picnic a gafwyd o dan y coed yn hwyl a bocs bwyd pawb yn llawn i'r ymylon. Diwrnod i'w gofio yn wir!


Pupils from Class 2 visited Bodnant Gardens in Conway this week.The weather was as beautiful as the garden! We saw lots of Rhododendrons, Camellias and Magnolia flowers which seem to enjoy living in this wooded area. The Camellia we have at school does not like our soil as its leaves have turned yellow, a little blood and bone should do the trick. There was a wedding at the Pin Mill whilst we were there and the children were very excited waiting to see the bride. The picnic under the trees was great fun and we all had far too much food in our lunch boxes. A great day out!