29 May 2012

Olympic Flame



Dau frawd o Ysgol y Tywyn yn cael y fraint o afael yn y Ffagl Olympaidd wrth iddi deithio drwy Fangor. Profiad i'w gofio yn wir!

Two brothers from Ysgol y Tywyn in Bangor holding the Olympic torch. You are very lucky, not everyone gets this chance.

27 May 2012

Trip y Feithrin / Nursery Trip



Dydd Gwener, a'r haul yn gwenu, aeth plant y Feithrin ar eu trip blynyddol. Y flwyddyn hon aethom i barc Gelli Gyffwrdd ger Y Felinheli. Cawsom ddiwrnod bendigedig a sawl un yn dweud eu bod yn gobeithio ymweld a'r parc eto'n fuan!

On Friday, with the sun shining, the Nursery children went on their annual school trip. This year we went to Greenwood Forest Park near Y Felinheli and we had a lovely day. Hidden amongst the trees were lots of fun activities for mums, dads and children!

24 May 2012

Maths 24



Yesterday 4 children visited Ysgol y Graig in Llangefni to compete in the ancient Chinese game of 24. Using all 4 numbers on the card once, and using any operation; add, subtract, multiply and divide, the aim of the game is to find the answer 24.


We met some fantastic mathematicians who had obviously practiced a lot at this game, even so Tywyn did well. Well done for representing our school, we are all very proud.

Dydd Mercher, yn Ysgol y Graig, Llangefni, bu pedwar plentyn o'r ysgol yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Tsieiniaidd o'r enw 24. Y cyfan oedd ei angen i chwarae'r gem oedd pac o gardiau. Wedi i'r pedwar cerdyn uchaf yn y pac gael ei droi, tasg y plant oedd defnyddio'r rhifau ar y cardiau i wneud ateb o 24 a hynny drwy adio, tynnu, lluosi neu rannu!


Ymdrechodd y plant yn galed ond roedd Mathemategwyr o fri yn Ysgol y Graig y prynhawn hwnnw! Serch hynny, cafwyd perfformiad da gan blant y Tywyn! Da iawn chi!

23 May 2012

Kayaking

Year 6 have been very lucky to have Kayaking lessons in Llangefni leisure centre. Over a period of 3 weeks the children learn the fantastic outdoor sport than can be enjoyed with friends on our local beaches in a safe and sensible manner. Eveyone has thoroughly enjoyed the experience and some hope to join a Kayaking club in the near future.



Eleni am y tro cyntaf, mae plant Blwyddyn 6 yn derbyn gwersi caiacio ym mhwll nofio Llangefni. Dros gyfnod o dair wythnos bydd y plant yn dysgu sut i gaiacio'n saff ar draethau lleol. Mae'n brofiad arbennig ac mae'r plant yn mwynhau yn fawr. Yn wir, mae sawl un yn awyddus yn awr i ymuno a chlwb canwio yn y dyfodol agos!

17 May 2012

Pel droed / Foootball

Today we played against Ysgol y Parc in our Holyhead League. Tywyn played very well throughout the match, it was and end to end match.
In our last meeting we lost 6-0, but today the score was a very good 2-1 to Parc. Well done to everybody a fantastic game to watch.


Heddiw ymwelodd tim peldroed yr ysgol ag Ysgol y Parc yng Nghaergybi. Y tro diwethaf i'r ddau dim gwrdd roedd y sgor yn 6 - 0 i'r Parc, ond heddiw cafwyd gem hynod gyffrous a'r ddau dim ar eu gorau. Y sgor terfynol oedd 2 - 1 i'r tim cartref.

Ffurfio 'w' / 'w' is for wheels






Yr wythnos hon, fel rhan o'n thema, rydym wedi bod yn dysgu sut i ffurfio'r lythyren 'w' am wheels.

This week, as part of our theme work, we have been learning how to form the letter 'w' for wheels.

10 May 2012

Meg's Car




Yr wythnos hon, cawsom stori am gar Meg. Dyma ni yn gwneud traciau gyda ceir bach a phaent, adeiladu car i Meg, chwarae yn y tywod gyda cerbydau pedair olwyn, paentio rhif pedwar ac arbrofi gyda ceir a rampiau.

One of the stories we enjoyed this week was 'Meg's Car'. Here we are making tracks, building a car for Meg, playing with four-wheeled vehicles in the sand-pit, painting number 4 and experimenting with cars and ramps.

5 May 2012

Picnic yn y parc / Picnic in the park



Fore Iau, fel rhan o'n thema, aethom am dro. Roedd pawb yn gafael dwylo ac yn gwrando'n ofalus drwy gydol y daith a chyn dychwelyd i'r ysgol cawsom bicnic yn y parc. Bu'n fore o hwyl a dysgodd y plant lawer am gadw'n ddiogel.

On Thursday, as part of our theme work, we went on a 'journey on foot'. We held hands, listened and stayed together all the time. Before going back to Nursery we all had a picnic in the park. We had lots of fun and learned a lot about keeping safe.

3 May 2012

Traws Gwlad / Cross Country

Congratulations to all who competed in today's Cross Country run at Millbank, Holyhead.

Best of luck to two pupils as they compete in the county competition in Llangefni later this month.

Llongyfarchiadau i'r plant fu'n rhedeg yn y Ras Trawsgwlad yng Nghaergybi ddiwedd yr wythnos. Pob dymuniad da yn awr i ddau blentyn o'r ysgol a fydd yn cystadlu yn sirol yn Llangefni ddiwedd y mis.

2 May 2012

Y Fedwen Fai/The Maypole



Fore Mawrth, a hithau'n Fai 1af, bu plant yr ysgol yn dawnsio o amgylch y Fedwen Fai. Roedd yn arferiad i ddefnyddio'r Fedwen Fai mewn dawnsfeydd a gynhelid fel rhan o ddathliadau Calan Mai. Bu'r offerynnwyr hefyd yn brysur yn cyfeilio i'r dawnswyr ac fel y gwelwch mwynhaodd pawb y profiad yn fawr.

On Tuesday, the first of May, the children danced round the Maypole. This tradition dates back to the 14th century when people celebrated the coming of Summer. The instrumentalists were also busy, and as you can see, it was a very enjoyable morning!