2 May 2012

Y Fedwen Fai/The Maypole



Fore Mawrth, a hithau'n Fai 1af, bu plant yr ysgol yn dawnsio o amgylch y Fedwen Fai. Roedd yn arferiad i ddefnyddio'r Fedwen Fai mewn dawnsfeydd a gynhelid fel rhan o ddathliadau Calan Mai. Bu'r offerynnwyr hefyd yn brysur yn cyfeilio i'r dawnswyr ac fel y gwelwch mwynhaodd pawb y profiad yn fawr.

On Tuesday, the first of May, the children danced round the Maypole. This tradition dates back to the 14th century when people celebrated the coming of Summer. The instrumentalists were also busy, and as you can see, it was a very enjoyable morning!