13 Mar 2011

Handa’s Surprise

Ar ôl darllen llyfr Handa’s Surprise mae dosbarth 1 wedi bod yn brysur yn chwilio am wybodaeth am Kenya ac wedi mwynhau y sialens. Mae’r plant wedi cael y cyfle i greu murlun am y stori, chwilota yn y llyfrgell ac ar y we am wybodaeth am y wlad a chymharu eu ffordd hwy o fyw â ni yma yn Ynys Môn.

After reading the story ‘Handa’s Surprise’, class 1 have been busy gathering information about Kenya and the children have enjoyed the challenge. They have had the opportunity to create a wall frieze about the story, searching for information in the library and on the internet about Kenya and comparing their way of life to ours.

Y mae’r plant wedi bod yn brysur yn paratoi salad ffrwythau gyda ffrwythau sydd yn cael eu tyfu yng Nghenia.
We prepared a fruit salad with fruits which are grown in Kenya.

Cafodd y plant gyfle i greu rhythmau Affricanaidd gyda drymiau.
The children had the opportunity to create African rhythms using various drums.