24 Apr 2015

Blodau / Flowers

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn son am flodau. Wedi gwrando ar stori Titch a'i hedyn bach aethom am dro i chwilio am flodau gwyllt ar dir yr ysgol. Cawsom hyd i sawl blodyn tlws yn y cae ac yng nghysgod y gwrychoedd. Wedi dychwelyd i'r ysgol buom yn dysgu enwau rannau o'r blodyn ac yna aethom ati i baentio lluniau o wahanol flodau.

This week we have been talking about flowers. After listening to the story about Titch and his tiny seed we all went for a walk around the school to look for wild flowers. We saw lots of pretty flowers growing in the school field and under the hedges. After returning to Nursery we talked about the main parts of the flower and we also painted pictures of different flowers.