22 May 2016

Church Bay - Porth Swtan

Bu Dosbarth 4 yn brysur iawn ddydd Iau diwethaf! Ar y ffordd i gasglu sbwriel ar lan-y-mor buom yn edrych ar ble y bwriedir adeiladu/addasu lôn i'r Wylfa Newydd (o'r Fali i'r Wylfa). Cawsom hefyd weld ble mae'r ysgol newydd ar fîn cael ei hadeiladu yn Lanfaethlu. 
Ar ol cyrraedd Porth Swtan dechreuodd fwrw glaw, felly cawsom ein picnic ar y bws. Roedd gwell hwyl ar bawb ar ol cael hufen ia o'r caffi! 
Cawsom amser prysur ar y lan-y-mor efo Ben Stammers o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Buom yn casglu sbwriel a darganfod llawer o fywyd gwyllt. Gwelsom grancod, pysgod, ac adar yn nythu.

Class 4 had a very busy day last Thursday! On our way to do the beach litter pick we saw where they're planning to build the new road for Wylfa Newydd (from Valley to the existing Wylfa). We also looked at where the new school is about to be built in Llanfaethlu. 
When we got to Church Bay we had to eat our picnic in the bus, but the rain didn't dampen our spirits, especially after a nice ice cream from the cafe! 
We had a busy couple of hours with Ben Stammers from the Wildlife Trust. We collected litter from the Strand Line, found lots of 'mermaids purses', lovely shells and stones, crabs and little fish. We saw some beach insects, Sea Anemones, Ravens and a nesting Fulmar.