28 Apr 2016

Cystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd / Urdd Art and Craft Competition


Heno, mewn seremoni wobrwyo yn Ysgol Uwchradd Bodedern derbyniodd aelodau’r Urdd dlws hardd am yr Adran uchaf ei marciau yng nghystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd Rhanbarth Mon. Cafwyd tri deg a naw o wobrau i gyd gyda pedwar ar bymtheg gwobr gyntaf. Bydd y cynnyrch buddugol yn awr yn cael eu hanfon ymlaen i’r Genedlaethol yn y Fflint. Byddant yn cael eu beirniadu ddiwedd Mai. Hei lwc i bawb!

Tonight at a prize-giving ceremony in Ysgol Bodedern, Ysgol y Tywyn received a trophy for the school with the highest marks in the Urdd’s Regional Art and Craft competition. The children received thirty-nine prizes altogether which included nineteen first prizes. The winning entries will now be sent to compete in the National Eisteddfod in Flint.  Congratulations. We are all very proud of your success.