15 Apr 2016

Rosie's Walk

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn sgwrsio am deithio ar droed. Mwynhaodd pawb y stori am Rosie yr iar a aeth am dro o amgylch y fferm gyda llwynog llwglyd a thrwsgwl yn ei dilyn. Aeth o amgylch y llyn, dros y das, heibio’r felin, drwy’r ffens, o dan y cychod gwenyn gan gyrraedd yn ôl mewn pryd am ginio! Dyma ni yn cael hwyl gyda’n cwrs rhwystrau ein hunain. Roedd yn rhaid mynd dros, o dan, o amgylch a drwy gwahanol rwystrau ond roeddem yn ôl yn y Feithrin mewn pryd am ein bwyd bach!

This week we have been talking about making journeys on foot. We all enjoyed listening to ’Rosie’s Walk’ - a story about Rosie the hen who goes for a walk around the farmyard followed by a hungry, clumsy fox! She went round the pond, over the haystack, past the mill, through the fence, under the beehives and was back in time for dinner. Here we are having fun attempting our own obstacle course. We had to go over, under, in, around and through different hurdles. We got back to Nursery just in time for snack!